Yr Ymerodraeth Brydeinig oedd yr ymerodraeth ehangaf a welwyd yn hanes y byd. Am ddwy ganrif roedd yn tra-arglwyddiaethu dros weddill y byd. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yng ngoresgyniad y gwledydd Celtaidd gan Loegr a thwf grym morwrol y wlad honno o ddiwedd yr Oesoedd Canol ymlaen. Tramor sefydlai'r Saeson nifer o drefedigaethau - rhai cymharol bychain i ddechrau - mewn cystadleuaeth â gwledydd Ewropeaidd eraill yn "Oes y Darganfod" yn Ewrop, o'r 15g ymlaen. Roedd gan Ffrainc, Portiwgal, Yr Iseldiroedd a Sbaen eu tiriogaethau tramor hefyd, ond yn ystod y 18g tyfodd y Brydain Fawr newydd i feddiannu mwy na'r lleill i gyd, trwy rym arfau neu gytundebau economaidd.
Erbyn 1921 roedd yr Ymerodraeth yn rheoli poblogaeth o tua 458 miliwn o bobl, sef o gwmpas chwarter poblogaeth y byd ar yr adeg honno. Roedd tua 33 miliwn km² (14.2 miliwn milltir sgwar) yn goch ar y map, o gwmpas chweched ran o arwynebedd y Ddaear.