Pentref yng nghymuned y Castellnewydd, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Abercynffig[1] (Saesneg: Aberkenfig).[2] Roedd y boblogaeth yn 2,024 yn 2001.
Saif Abercynffig i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr, heb fod ymhell o gyffordd priffordd yr A4063 a thraffordd yr M4. Saif ger cymer Afon Llynfi ac Afon Ogwr, ac i'r de o bentref Ton-du. Gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae'r rhan fwyaf o'r trigolion bellach.
Cyfeiriadau