Pentref bach yng nghymuned Llangrallo Isaf, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Llangrallo[1] (Saesneg: Coychurch).[2] Saif i'r dwyrain o dref Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llangrallo gan Sant Crallo (tua'r 6g?). Ceir croesau eglwysig wedi'u cofrestru gan Cadw ym mynwent yr eglwys.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[4]
Cyfeiriadau