Maestref yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Bracla[1] (weithiau Bragle;[2] Saesneg: Brackla).[3] Mae'n ystad breswyl enfawr ar lethr deheuol Bryn Bragle yn nwyrain y dref.
Fe'i codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad wreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un fwyaf yw Nant Sana.
Mae'r ystad yn dal i ehangu ar weddill tiroedd Fferm Tremaen (sy'n cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Chris Elmore (Llafur).[5]
Ysgolion
Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Gynradd Bragle
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Bracla (pob oed) (11,749) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bracla) (1,126) |
|
10% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bracla) (8938) |
|
76.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bracla) (1,223) |
|
25.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau
Dolen allanol