Afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Ogwr yw Afon Llynfi.
Mae'n tarddu ar y llechweddau i'r gogledd o Caerau, ac yn llifo tua'r de ar hyd Cwm Llynfi, trwy ganol Maesteg a heibio Cwmfelin, Llangynwyd a Coytrahen cyn ymuno ag Afon Ogwr ger Abercynffig, lle mae Afon Garw hefyd yn ymuno a'r Ogwr.
Ar un adeg, roedd cyflwr dyfroedd Afon Llynfi yn wael iawn, oherwydd y pyllau glo a gweithfeydd haearn ger ei glannau. Erbyn hyn mae ansawdd y dŵr wedi gwella.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!