Gelwir Uwch Gynghrair Slofacia yn Super Liga. Gan mai prif noddwr cyfredol y Gynghrair yw Fortuna, gelwir yn swyddogol yn Fortuna Liga.[1] Sefydlwyd y Gynhrair yn 1993 yn dilyn rhannu hen wladwriaeth Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993. Y clwb sydd wedi ennill y mwyaf o bencampwriaethau yw ŠK Slovan Bratislava.
Hanes
Cyn 1918 roedd Slofacia yn rhan o ran Hwngari o Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Sefydlwyd rhai o glybiau'r wlad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wedi i Awstria-Hwngari (a'r Almaen) golli'r Rhyfel Mawr sefydlwyd gwladwriaeth newydd Tsiecoslofacia yn 1918. Cynhaliwyd pencampwriaeth Slofacaidd gyntaf, y Zväzové Majstrovstvá Slovenska rhwng timay o Slofacia rhwng 1925-1933. Hyd nes 1935-36 doedd dim un tîm o Slofacia wedi chwarae yng Nghynhrair Gynraf Tsiecoslofacia, cynghrair broffesiynnol y wladwrieth. Yr unig dîm o Slofacia yn yr uwch gynghrair yma oedd ŠK Slovan Bratislava.
Yn 1938 meddiannwyd Tsiecoslofacia gan y Natsiaid ac yna rhannwyd y wladwrieth, gyda Slofacia yn ennill annibyniaeth (er, gwelai nifer o bobl hyn fel gwlad byped i'r Natsiaid).[2] Bu'n rhaid i Slovan Bratislava adael cynghrair Tsiecoslofacia ac ymuno â chynghrair newydd y Slovenská liga (1939–1945) yng ngwladwriaeth newydd 'annibynnol', Slofacia.
Wedi i'r Natsiaid golli'r Ail Ryfel Byd yn 1945 ail-unwyd Slofacia gyda'r tiroedd Tsiec i ail-sefydlu Tsiecoslofacia (ond heb Ruthenia yn y dwyrain eithaf a 'wobrwyyd' i Iwcrain) gan Stalin.
Bu timau Slofacia yn chwarae yng nghyngrair Tsiecoslofacia hyd nes i'r wladwriaeth hwnnw ddod i ben ar ddiwrnod olaf 1992, ac ar 1 Ionawr 1993 crewyd dwy wlawriaeth newydd, Slofacia a'r Gweriniaeth Tsiec.
↑"Fortuna Liga: Standings". Slovakia: National League. FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 January 2012. Cyrchwyd 23 February 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)