Uwch Gynghrair Armenia

Uwch Gynghrair Armenia
GwladArmenia
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1992; 32 blynedd yn ôl (1992)
Nifer o dimau10
Lefel ar byramid1
Disgyn iArmenian First League
CwpanauArmenian Cup
Armenian Supercup
Cwpanau rhyngwladolUEFA Champions League
UEFA Europa Conference League
Pencampwyr PresennolUrartu (2nd title)
(2022–23)
Mwyaf o bencampwriaethauPyunik (15 titles)
Partner teleduArmenia TV
YouTube
Gwefanpremierleague.ffa.am
2023–24

Uwch Gynghrair Armenia (Armeneg: IBank Հայաստանի Պրեմիեր Լիգա, a adnabyddir fel Uwch Gynghrair Armenia IBank am resymau nawdd) yw'r brif gystadleuaeth bêl-droed yn Armenia.[1] Rhwng 1936 a 1991, cynhaliwyd y gystadleuaeth fel twrnamaint rhanbarthol o fewn yr Undeb Sofietaidd. Yn dilyn annibyniaeth Armenia, mae Ffederasiwn Pêl-droed Armenia wedi bod yn awdurdod llywodraethu'r gynghrair. Dros y blynyddoedd, mae'r gynghrair wedi datblygu i fod yn gynghrair fechan sy'n cynnwys deg tîm. Sefydlwyd yr Uwch Gynghrair yn 1992. Mae enillydd y gynghrair yn cael lle yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA.

Timau

Mae'r uwch gynghrair yn cynnwys deg tîm. Ar gyfer tymor 2012/13, newidiwyd gweithrediadau gêm i amserlen hydref-gwanwyn sy'n arferol yn Ewrop gan gywnnwys Cymru, wedi cyfnod pan oedd y tymor gael ei chwarae dros y flwyddyn galendr (fel arfer o fis Mawrth i fis Hydref).

Clybiau yng Nghynghrair Uchaf Armenia 2023/24

Roedd 7 o'r 10 tîm yn yr Uwch Gynghrair wedi eu lleoli yn y brifddinas, Yerevan. Dim ond Noah (yn Armavir), Van (yn Charentsavan) a Shirak Gyumri (dinas Gyumri) sydd y tu allan i'r brifddinas. Mae hyn gyda'r nifer dwyaf o brif glybiau o'r brifddinas mewn unrhyw aelod o UEFA - efallai y mwyaf dwys tu hwnt i'r meicro wledydd.

  • FC Urartu Yerevan (pencampwr)
  • FC Pyunik Yerevan
  • FC Ararat-Armenia
  • FC Ararat Yerevan
  • FC Alashkert Martuni
  • BKMA Yerevan
  • FC Noah Yerevan
  • FA Van
  • FC Shirak Gyumri
  • FC Gorllewin Armenia (esgynwyd)

Trefn

Mae enillwyr yr Uwch Gynghrair yn cymhwyso ar gyfer Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Mae'r timau sy'n ail a thrydydd yn cyrraedd rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Cynhadledd Europa UEFA ('UEFA Europa Conference League'). Mae enillwyr Cwpan Armenia hefyd yn cymryd rhan yno. Os ydyn nhw eisoes wedi cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd trwy’r gynghrair, mae’r lle hwn yn disgyn i'r tîm sydd bedwerydd yn y gynghrair.

Pencampwyr

Safle Clwb Teitl Tymor
1. Pyunik Yerevan 15 1992*, 1996, 1997, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008, 2009, 2010, 2015, 2022
2. Shirak Gjumri 4 1992*, 1994, 1999, 2013
Alashkert Martuni 2016, 2017, 2018, 2021
4. Araks Ararat 2 1998, 2000
Urartu Yerevan 2014, 2023
Ararat-Armenia 2019, 2020
7. Ararat Yerevan 1 1993
Yerevan 1997
Ulisses Yerevan 2011
  • noder * Ym 1992 cynhaliwyd y bencampwriaeth mewn dau grŵp. Daeth enillwyr y ddau grŵp yn bencampwyr.
  • Nid yw timau mewn italig yn bodoli mwyach

Newid enwau

Cafwyd hanes o newid enwau clybiau mwyaf adnabyddus y wlad. Homenetmen Yerevan yw hen enw Pyunik Yerevan.

  • Tsement Ararat yw hen enw Araks Ararat
  • Banants yw hen enw Urartu

Noddwyr

  • VBET Uwch Gynghrair Armenia (2020-2022)
  • Uwch Gynghrair Fastex Armenia (2022-2023)
  • Uwch Gynghrair Armenia IBank (2023-presennol)

Cyfeiriadau

  1. "IDBank Premier League". premierleague.ffa.am. Cyrchwyd 28 Medi 2023.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!