Y Nemzeti Bajnokság (Ynganiad Hwngareg:ˈnɛmzɛti ˈbɒjnokʃaːɡ, "Pencampwriaeth Genedlaethol") yw cynghrair pêl-droed proffesiynnol Hwngari. Sefydlwyd y Gynghrair yn 1901. Ei enw cyfredol yw OTP Bank Liga ar ôl y prif noddwyr.[1] Gweinyddir hi o dan adain Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari. Mae'r gynghrair wedi ei marcio fel 36eg yn rhestr safonnau UEFA o gynghreiriau cenedlaethol Ewrop.[2]
Trefniant
Yn gyfredol gwelir 12 tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddwywaith y tymor. Bydd y pencampwyr yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA tra fod yr ail a'r trydydd tîm ynghŷd ag enillydd Cwpan Hwngari yn cystadlu yn rownd rhagbrofol Cynghrair Europa UEFA. Bydd y ddau glwb ar waelod y gynghrair yn cwympo i'r Nemzeti Bajnokság II, yr ail gynghrair gydag enillydd yr NB2 a'r tîm sy'n ail yn esgyn i'r Nemzeti Bajnokság.
Hanes
Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1901 rhwng BTC, MUE, FTC, Műegyetemi AFC a Budapesti SC, gyda Budapesti'n ennill y gynghrair yn y tymor cyntaf.[3] Yn ystod yr 1910au a'r 1920au dominyddwyd y bencampwriaeth gan Ferencváros a MTK.[3] ac yn yr 1930au daeth tîm arall, Újpest FC (nad oedd yn rhan o ddinas Budapest ar y pryd) yn un o'r prif dimau.[4] Gelwir y gemau rhwng y tri thîm yma yn Darbi Budapest.[5]
Yr Ail Ryfel Byd
Yn wahanol i sawl gwlad arall yn Ewrop, parhaodd y Nemzeti Bajnokság i gystadlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hyn oherwydd nad oedd Hwngari yn rhyfela yn erbyn yr Almaen Natsiaidd ac na fu prin brwydro o fewn y wlad nes 1944. Oherwydd cefnogaeth yr Almaen, llwyddodd Hwngari i ad-feddiannu peth o'r tiroedd a gollwyd ganddynt yng Nghytundeb Trianon a gydag hynny ail-ymunodd timau fel Nagyvárad[6] a Kolozsvár.[7] Daeth hyn i ben wedi'r Almaen golli'r Rhyfel a Hwngari golli'r tiroedd hynny i Slofacia, Rwmania ac Iwcrain (Undeb Sofietaidd).
yr 1950au Euraidd a Gwrthryfel Hwngari 1956
Gwanhawyd dominyddiaeth Ferencváros a MTK yn yr 1950au a daeth tîm Honvéd ("Byddin") i'r brig gyda chwaraewyr byd-enwog fel Puskás, Bozsik, Czibor a Budai. Dyma'r chwaraewyr a chwaraeodd yn ffeinal Cwpan y Byd Pêl-droed 1954. Yn yr 1950au enillodd Honvéd y gynghrair bump gwaith a'r tîm oedd asgwrn cefn tîm enwog y Mighty Magyars.
Diddymwyd y Gynghrair yn 1956 oherwydd Gwrthryfel Hwngari yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Er mai Honvéd oedd ar frig y gynghrair wedi 21 gêm ni orffennwyd byth mo'r tymor. Yn ystod tymor gyntaf Cwpan Ewrop (1955-56), cyrhaeddodd MTK Budapest rownd y chwarteri ac yn 1957-58 cyrhaeddodd Vasas Budapest y rownd gyn-derfynol.
Enillodd Vasas bedair pencampwriaeth yn yr 1960s.
Cwymp Comiwnyddiaeth, yr 1990au
Gyda chwymp system gomiwnyddol Hwngari yn 1989 collodd timau pêl-droed gefnogaeth y wladwriaeth. Canlyniad hynny oedd problemau ariannol mawr sy'n dal yn bla ar bêl-droed y wlad. Daliai'r tri mawr, Ferencváros, MTK, Újpest, i ddominyddu'r 1990au ond effeithiodd y sefyllfa ariannol ar lwyddiant timau Hwngari y tu allan i'r wlad. Gallai clybiau Hwngari chwaith ddim cystadlu gyda thynfa ariannol clybiau mawr tramor chwaith. Cafodd dyfarniad Bosman gan yr Undeb Ewropeaidd effaith fawr hefyd gan alluogi i chwaraewyr Hwngareg adael y wlad am gyflogau brasach.[8]
Y 21g a llwyddiant timau'r taleithiol
Yn ystod yr 2000au daeth timau newydd o du allan i Budapest i dominyddu'r gynghrair. Mae'r timau yma'n cynnwys Bozsik's Zalaegerszeg, Debrecen, Videoton o Székesfehérvár a Győr.
Enw a noddwyr
Newidiwyd enw'r Gynghrair yn rheolaidd ers cwymp comiwnyddiaeth a 1997 yn benodol. Defnyddir enwau'r prif noddwyr fel enw'r Gynghrair:
o 2011: OTP Bank (Banc)
2010/11: Monicomp (Gwasanaethau ariannol)
2007–10: Soproni (Bragdy)
2005–07: Borsodi (Bragdy)
2003–05: Arany Ászok (Bragdy)
2001–03: Borsodi (Bragdy)
1997–98: Raab Karcher (Deunydd adeiladu)
Enillwyr y Nemzeti Bajnokság I
Nodir y clybiau gan ei henwau diweddaraf, heb gynnwys enw noddwyr. Yr un eithriad yw Nagyváradi AC a enillodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a sydd nawr yn ddinas yn Rwmania ac enw'r clwb yw Clubul Atletic Oradea.