Mae bywydeg fel maes modern o astudiaeth wyddonol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Defnyddiwyd y term bioleg (neu air tebyg) – sy'n deillio o'r gair Groeg βίος (bios, "bywyd") a'r ôl-ddodiad -λογία (-logia, "astudiaeth o")[1] – am y tro cyntaf o gwmpas dechrau'r 19g. Defnyddiwyd gan y ffisiolegydd Thomas Beddoes yn 1799, y gwyddonydd Karl Friedrich Burdach yn 1800 a'r gwyddonydd Gottfried Reinhold Treviranus yn 1802.[2][3][4]
Ond er tarddiad diweddar y pwnc fel y'i adnabyddir heddiw, gellir olrhain hanes bywydeg yn ôl i amseroedd hynafol. Bu Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yn Henfyd oddeutu 330CC.[5] Roedd gan brentis Aristoteles, Theophrastus, hefyd ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe ysgrifennodd yn helaeth am blanhigion.[6]
Bu nifer o ddisgyblion y byd Islamaidd canoloesol yn astudio bywydeg, yn cynnwys al-Jahiz (781–869), Al-Dīnawarī (828–896), a ysgrifennodd am fotaneg ac al-Razi (865–925), a ysgrifennodd am ffisioleg ac anatomeg.[7][8][9]
Yn dilyn gwaith arloesol Antonie van Leeuwenhoek ar wella a datblygu'r microsgop yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis algâu.[10] Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y gell i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn theori cell.[11]
Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar dacsonomeg a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden Carolus Linnaeus argraffiad cyntaf ei Systema Naturae yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.[12]. Mae ei gyfundrefn o enwau deuenwol yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.[13]
Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro esblygiad. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig Jean-Baptiste de Lamarck ei waith Philosophie Zoologique, ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad.[14] Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach.[15] Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr Charles Darwin yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes daeareg, gan ddefnyddio detholiad naturiol i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro Alfred Russel Wallace i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain Asia.[16][17][18]
Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur etifeddeg. Roedd y mynach o ForafiaGregor Mendel wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901.[19] Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed.[20] Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf Avery-MacLeod-McCarty mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf Hershey-Chase.[21][22]
↑Malik, Aamina H; Ziermann, Janine M; Diogo, Rui. "An untold story in biology: the historical continuity of evolutionary ideas of Muslim scholars from the 8th century to Darwin’s time". Journal of Biological Education. doi:10.1080/00219266.2016.1268190. ISSN0021-9266.
↑Fahd, Toufic. "Botany and agriculture", gol. Rashed, Roshdi: Encyclopedia of the History of Arabic Science, 3. Routledge, tud. 815. ISBN 0-415-12410-7
↑Cobb, Matthew (2007). The Egg and Sperm Race: The Seventeenth-Century Scientists Who Unravelled the Secrets of Sex, Life and Growth. Simon & Schuster UK. ISBN 978-1416526001
↑Sapp, Jan. Genesis: the Evolution of Biology. Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-515618-8
↑Nicholson, Dan H (1991). A history of botanical nomenclature, Annals of the Missouri Botanical Garden, Cyfrol 78 (yn Saesneg), tud. 33-56. DOI:10.2307/2399589
↑Gould, Stephen Jay (2002). The Structure of Evolutionary Theory. Gwasg Prifysgol Harvard, tud. 187. ISBN 0-674-00613-5
↑Lamarck, Jean Baptiste (1809). Philosophie Zoologique (yn Ffrangeg)
↑Larson, Edward J (2006). Evolution: The Remarkable History of a Scientific Theory. Random House. ISBN 978-1-58836-538-5
↑Ford, EB (1960). Mendelism and Evolution, 7, Methuen & Co
↑Soyfer, VN. The consequences of political dictatorship for Russian science, Nature Reviews Genetics, Cyfrol 2, Rhifyn 9, tud. 723-729. DOI:10.1038/35088598
↑ (1944) Studies on the Chemical Nature of the Substance Inducing Transformation of Pneumococcal Types: Induction of Transformation by a Deoxyribonucleic Acid Fraction Isolated from Pneumococcus Type III, Journal of Experimental Medicine, Cyfrol 79, Rhifyn 2, tud. 137-158. DOI:10.1084/jem.79.2.137
↑ (1952) Independent functions of viral protein and nucleic acid in growth of bacteriophage, Journal of Genetic Physiology, Cyfrol 36, Rhifyn 1, tud. 29-56. DOI:10.1085/jgp.36.1.39. URL