On the Tendency of Species to form Varieties; and on the Perpetuation of Varieties and Species by Natural Means of Selection, On the Origin of Species, The Voyage of the Beagle, The Descent of Man, and Selection in Relation to Sex, The Expression of the Emotions in Man and Animals, Insectivorous Plants, The Power of Movement in Plants, The Formation of Vegetable Mould through the Action of Worms
Anne Darwin, Francis Darwin, William Erasmus Darwin, Henrietta Darwin, George Darwin, Leonard Darwin, Horace Darwin, Charles Waring Darwin, Elizabeth Darwin, Mary Eleanor Darwin
Perthnasau
Ursula Mommens, Josiah Wedgwood II, Emma Darwin, Robin Darwin, Sarah Darwin
Gwobr/au
Medal Brenhinol, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Baly Medal, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, Bressa Prize, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Medal Wollaston, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi, Medal Darwin
Yn Awst 1831, astudiodd greigiau Eglwyseg ger Llangollen ac yna ymweliad â Phen y Gogarth yn Llandudno, cyn mynd ymlaen i Gwm Idwal yn Eryri lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.[1][2] Ar ei daith ddaearegol olaf i Gymru, ym 1842, fe ymwelodd â Moel Tryfan ym mhlwyf Llanwnda, lle roedd olion o waddodiad morol wedi eu darganfod ar ffurf cregin; er na chafodd hyd i fwy o'r rhain, fe ddaeth at rai casgliadau ynglŷn â ffurfiant y gwythiennau llechfaen yn yr ardal, sydd ar ongl anarferol.[3]
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd HMS Beagle ac roedd ei arsylliadau ar Ynysoedd y Galapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.
Teithio ar y Beagle
Yn ystod ei deithiau ar y Beagle astudiodd Darwin daearegcyfandiroedd ac ynysoedd yn ogystal â nifer o anifeiliaid, planhigion a ffosiliau. Mewn ffordd drefnus iawn, casglodd nifer enfawr o enghreifftiau nad oedd neb wedi eu hastudio o'r blaen. Rhoddodd y casgliad pwysig yr oedd wedi ei gasglu i'r Amgueddfa Brydeinig. Roedd Darwin yn un o arloeswyr ecoleg.
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r Ynysfor Cape Verde, i Ynysoedd Falkland (Malvinas), i lannau môr De America, Ynysoedd y Galapagos, Seland Newydd ac Awstralia. Daeth yn ôl adref ar 2 Hydref, 1836, ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd am grwbanod ac adar Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
Yng ngwanwyn 1837 hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn mai llinos oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawd Thomas Malthus ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym 1798 arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.
Cyhoeddwyd llyfr am ei ddamcaniaeth, Notebook on the Transmutation of Species, sydd yn cytuno â Principles of Geology gan Syr Charles Lyell ac Essay on the Principle of Population gan Thomas Malthus sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn tueddu i gyfyngu poblogaeth i un ardal neilltuol. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion ar golomennod a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyr moch i gryfhau ei ddamcaniaeth.
Astudiaethau
R. Elwyn Hughes, Darwin, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)