Tacson, neu uned dacsonomaidd, yw grŵp o organebau (wedi'u henwi neu'n ddienw), yn y system dosbarthiad gwyddonol.
Strwythr
Unwaith ei fod wedi'i enwi, bydd gan bob tacson reng benodol o fewn hierarchaeth. Yn aml ceir anghytundeb gan dacsonomegwyr ynglŷn â beth sy'n perthyn i dacson arbennig, a'r llinyn mesur dros gynnwys y rhywogaeth yn y tacson hwnnw. Pan fo cytundeb, rhoddir enw gwyddonol (Lladin) arno a rheolir y defnydd o'r enw hwnnw drwy gyplysu enwau gyfundrefnol (nomenclature code) gyda'r grŵp.