Rhaniad economaidd-gymdeithasol a gwleidyddolbydol sy'n bodoli rhwng y gwledydd datblygedig cyfoethog, a elwir yn "y Gogledd", a'r gwledydd datblygol (yn cynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig), a elwir yn "y De", yw'r rhaniad Gogledd-De.[1] Er lleolir y rhan fwyaf o wledydd y Gogledd yn Hemisffer y Gogledd, nid daearyddiaeth sy'n diffinio'r rhaniad yn bennaf. Mae'r Gogledd yn cynnwys pedwar o bum aelod arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac holl aelodau'r G8, ac yn cyfansoddi y Gorllewin a'r Byd Cyntaf gyda nifer o wledydd yr Ail Fyd hefyd. Mae'r term "rhaniad Gogledd-De" dal yn gyffredin, ond mae'r termau "Gogledd" a "De" wedi'u dyddio braidd. Wrth i wledydd dod yn fwy economaidd ddatblygedig, gallent dod yn rhan o'r Gogledd beth bynnag yw eu lleoliad daearyddol, tra ystyrid unrhyw wledydd eraill nad ydynt yn bodloni'r statws datblygedig fel rhan o'r De.[2]
Problemau gyda'r rhaniad
Gwanháu'r term rhaniad Gogledd-De wnaeth cwymp y Bloc Sofietaidd a'r tlodi a ddilynodd gan fod nifer o'r cyn-weriniaethau Sofietaidd nawr yn dod o dan statws gwledydd datblygol, ac mae'r term "Ail Fyd" yn anghyffredin ar hyn o bryd. Ar y llaw arall, mae nifer o wledydd a gafodd eu hystyried yn flaenorol yn ddatblygol, megis Pedwar Teigr Asia, nawr yn ddatblygedig ac yn rhan o'r Byd Cyntaf modern; er hyn, mewn rhai mapiau o'r rhaniad Gogledd-De, disgrifir y fath wledydd fel rhan o'r De, sy'n anghyson â'r diffiniad uchod. Hefyd, disgrifir tiriogaethau dibynnol y gwledydd datblygedig fel rhan o'r De, er eu bod yn rhan o'r byd datblygedig.[3]
Map o'r byd yn dynodi'r Indecs Datblygiad Dynol (2004). uchel (0.800–1) canolig (0.500–0.799) isel (0.300–0.499) dim safle
Yn ddiweddar mae'r term Bwlch Datblygiad wedi ymddangos i ddisgrifio'r rhaniad Gogledd-De. Mae'r cysyniad hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar gau'r bwlch amlwg sydd rhwng gwledydd cyfoethog (mwy economaidd ddatblygedig) a gwledydd tlawd (llai economaidd ddatblygedig). Ffordd dda o fesur ar ba ochr o'r bwlch y mae gwlad yw ei safle ar yr Indecs Datblygiad Dynol (IDD). Yr agosaf yw safle gwlad i 1.0, y mwyaf yw ei lefel datblygiad.