Y rheswm pennaf dros dwf meysydd awyr oedd gweithrediadau milwrol, yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ond datblydwyd llawer o feysydd awyr trwy'r 1920au a 1930au. Yr ail gyfnod o ran twf oedd yn y 1950/60au pan welwyd cynnydd arall mewn teithio rhyngwladol. Trwy'r cyfnod hwn, datblygodd y maes awyr yn sefydliad llawer mwy soffistigedig.
Yng Nghymru, datblygwyd nifer o feysydd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd: RAF Sain Tathan a adeiladwyd ym 1938, RAF Pen-bre ym 1939, RAF Fali ym 1941, RAF Rhoose (Maes Awyr Caerdydd) ym 1942, RAF Brawdy ym 1944, ac ati. Caewyd y rhan fwya ohonyn nhw yn syth ar ôl y rhyfel a mabwysiadwyd nifer gan gyrff cyhoeddus neu breifat.
Mae'n bosib teithio i sawl lle drwy Ewrop a gweddill y byd o feysydd awyr Cymru, yn enwedig o Gaerdydd. Mae llawer o deithwyr yn gyrru o Gymru i Fryste, Manceinion neu Lundain i deithio gan ei fod ar y cyfan yn rhatach.[1][2]
↑Newyddion BBC"Mae'r ffigurau newydd yn awgrymu bod ychydig yn fwy o deithwyr oedd yn teithio'n ôl ac ymlaen o Gymru wedi defnyddio Bryste yn hytrach na Chaerdydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn."