Lleolir Maes Awyr Caernarfon (ICAO: EGCK) i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd, Cymru. Mae'n faes awyr hedfan sifil.
Mae gan gwmni Maes Awyr Caernarfon Drwydded Gyffredin y CAA (Rhif
P866), sy’n caniatáu hedfan gwasanaethau cludiant cyhoeddus i deithwyr gan y cwmni trwyddedig, Air Caernarfon Cyf. Dydy'r maes awyr ddim yn drwyddedig am ddefnydd yn
ystod y nos.[1]
Ceir caffi mawr yn y maes awyr, yn ogystal ag awyrendai cynhaliaeth a storfa, canolfan ymwelwyr a siop, sydd yn rhan o’r Amgueddfa Awyr ar y safle. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle.
Hanes
Agorwyd y maes awyr yn 1941 fel RAF Llandwrog. Roedd y ganolfan awyr yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi saethwyr, gweithredwyr radio a llyw-wyr, ac yn nes ymlaen fel canolfan i Wasanaeth Achub Mynydd yr RAF.[2] Am weddill yr Ail Ryfel Byd RAF Llandwrog oedd y maes awyr mwyaf yng Nghymru.
Peidiodd yr RAF ddefnyddio'r maes awyr yn 1953. Ers 2003 mae wedi bod yn gartref i hofrennydd gogledd Cymru yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Cyfeiriadau