Pentref, plwyf a chymuned yn Nyffryn Teifi yn ne Ceredigion yw Llanwenog. Saif ar yr A475 tua 6 milltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan ac i'r gogledd-orllewin o Lanybydder.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwenog, ac mae'n cynnwys bedyddfaen nodedig. Cafwyd hyd i garreg yma gydag arysgrif o'r 5g mewn Lladin ac Ogam, yn coffhau Trenacatus fab Maglagnus. Mae'n awr yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Enwyd brîd o ddefaid ar ôl Llanwenog.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Rhuddlan Teifi, Dre-fach, Cwrtnewydd, Alltyblaca a Gors-goch. Roedd poblogaeth yn gymuned yn 2001 yn 1,391.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Enwogion
- John Bowen Jones (1829 – 1905), Gweinidog Annibynnol a golygydd cylchgronau Cymraeg
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanwenog (pob oed) (1,364) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwenog) (751) |
|
57% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwenog) (791) |
|
58% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanwenog) (192) |
|
33.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau