- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Pentref bychan gwledig yn ne Ceredigion yw Betws Bledrws( ynganiad ) (fe'i camsillefir weithiau fel Bettws Bledrws). Saif ar y llethrau ar lan Afon Dulas, tua 3 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan a milltir a hanner i'r de-orllewin o bentref Llangybi, ar yr hen ffordd o Dregaron i Lambed.
Yn ymyl y pentref ceir Plasdy Derry Ormond a'i dŵr hynafol ar y bryn uwchben. Gellir ei weld o bell.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Cyfeiriadau