Pentref yn ne Ceredigion yw Cwm-cou (ceir y llurguniad Saesneg Cwmcoy ar rai mapiau). Fe'i lleolir ar y ffordd B5470 tua milltir a chwarter i'r gogledd-orllewin o dref Castell Newydd Emlyn.
Gorwedd y pentref wrth droed y bryniau isel ar lan ogleddol Afon Teifi lle daw Afon Dulas i lawr o'r gogledd i'w chymer ar afon Teifi.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Enwogion
Ganwyd Theophilus Evans (1693-1797) awdur y llyfr hanes enwog Drych y Prif Oesoedd, yng Nghwm-cou, lle treuliodd ei lencyndod.
Cyfeiriadau