- Am y pentref a chymuned o'r un enw ym Mhowys, gweler Llangynog, Powys.
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llangynog. Saif i'r dwyrain o Sanclêr ac i'r de o'r briffordd A40 rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]
Olion hynafol
Ceir olion amaethu o Oes yr Haearn yn yr ardal, ac mae siambr gladdu Neolithig Twlc-y-Filiast gerllaw. Cysegrir yr eglwys i Sant Cynog, a chredir fod y safle yn dyddio i'r 6g.
Ceir cytiau caeedig Eithin Mân gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llangynog, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (492) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangynog, Sir Gaerfyrddin) (193) |
|
40% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangynog, Sir Gaerfyrddin) (307) |
|
62.4% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llangynog, Sir Gaerfyrddin) (46) |
|
24.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau