Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Cwmduad. Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir ar y ffordd A484 tua hanner ffordd rhwng Llandysul, i'r gogledd, a thref Caerfyrddin i'r de. Mae'n rhan o blwyf eglwysig a chymuned Cynwyl Elfed.
Saif y pentref ar lan afon Duad, un o ledneintiau Afon Gwili.