Pentref yng nghymuned Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin, Cymru, ydy Ffarmers.[1][2] Fe'i lleolir ger Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ei enwi ar ôl tafarn y "Farmers' Arms", ond mae'r dafarn ei hun wedi cau ers blynyddoedd. Mae'r pentref ar hen ffordd rhufeinig (o'r enw Sarn Helen), ac roedd pobl yn pasio trwy'r pentref wrth fynd â'u gwartheg i farchnadoedd Lloegr.
Mae'r afonydd bychain Afon Twrch ac Afon Fanafas yn llifo ger y pentref, tuag at y de, ac yn ymuno ag Afon Tywi rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.
Cyfeiriadau