Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Dyffryn Ceidrych. Fe'i lleolir yn nwyrain y sir tua 2 filltir i'r de o dref Llangadog, ar ffordd wledig rhwng yr A4069 a Bethlehem.
Gorwedd y pentref yn y bryniau ar lan ddeheuol Afon Tywi, wrth odrau gorllewinol y Mynydd Du ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.