Gâl

Gâl (Lladin: Gallia) oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw. Gallia Cisalpina (‘Gâl is yr

Gâl
Gâl
Mathardal hanesyddol, hen wareiddiad, cenedl, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladFfrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal, Y Swistir, Gwlad Belg, Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5°N 2.9°E Edit this on Wikidata
Map

Gâl (Lladin: Gallia) oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw. Gallia Cisalpina (‘Gâl is yr Alpau’) neu Gallia Citerior oedd yr enw am ei diriogaeth yng ngogledd yr Eidal; Gallia Transalpina (‘Gâl dros yr Alpau’) neu Gallia Ulterior oedd yr enw am ei diriogaeth rhwng Afon Rhein, y Pyreneau, yr Alpau, y Môr Canoldir a'r Môr Iwerydd (sy'n cyfateb yn fras i Ffrainc a Gwlad Belg heddiw). Yn y cyfnod modern mae rhai haneswyr yn defnyddio'r enw i gyfeirio at yr Âl orllewinol yn bennaf neu'n unig. Gelwir y penrhyn lle mae Llydaw gyfoes hyd at lannau'r Afon Seine yn Armorica.

Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y Rhufeiniaid tua'r 3 CC/ail ganrif CC. Yn 89 CC a 49 CC cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r 2g CC goresgynnodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith Gallia Narbonensis yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn 58-51 CC arweiniodd Iŵl Cesar ei llengoedd i weddill Gâl a'i chwncweru ar ôl nifer o frwydrau caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith gan yr ymerodr Augustus yn 27 CC: Gallia Belgica yn y gogledd-ddwyrain, Gallia Aquitania yn y de-orllewin a Gallia Lugdunensis yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum (Lyons) fel coloni yng nghanol y "Tair Gâl" (Tres Galliae) hyn yn 43 CC. Gwasanaethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y Concilium Galliarum ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.

Blodeuai diwylliant arbennig yn yr Âl Rufeinig, a gyfunai elfennau Celtaidd a Rhufeinig; fe'i gelwir weithiau'n ddiwylliant Galaidd-Rufeinig. Yn ystod yr ail ganrif dechreuodd Cristnogaeth gyrraedd Gâl a chafodd hyn yn ei thro effaith sylweddol ar iaith a diwylliant yr ardal. Yn y 3g cafwyd nifer o gyrchoedd ar Âl gan lwythau Germanaidd a phan ymadawodd y llengoedd Rhufeinig olaf yn y 5ed ganrif goresgynnwyd y wlad i gyd gan y Germaniaid a chafodd ei rhannu rhwng y prif lwythau, sef y Ffranciaid, y Alemanni, y Bwrgwyniaid a'r Fisigothiaid.

Gâl yn y ganrif gyntaf CC
Y brenin Galaidd Vercingetorix yn ildio i Iŵl Cesar (llun dychmygol)

Gweler hefyd

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.