ChwedlGymraeg Canol sy'n adrodd hynt a helynt yr arwr Culhwch yn ei ymgais i ennill llaw y forwyn Olwen yw Culhwch ac Olwen. Dyma'r chwedl Gymraeg gynharaf am lys y brenin Arthur sydd ar glawr heddiw. Mae'n chwedl drwyadl Gymreig a Cheltaidd heb arlliw o'r Arthur diweddarach a gafodd ei ramanteiddio a'i droi'n ffigwr Cristnogolsifalriaidd yn nwylo'r Ffrancod a'r Saeson.
Llawysgrifau
Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn Llyfr Coch Hergest (tua diwedd y 14g. Ceir copi anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua chanol y 14g) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.
Dyddiad
Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod Canu'r Bwlch neu'r Gogynfeirdd cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng Culhwch ac Olwen a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi Llywarch Hen a rhai o destunau Llyfr Du Caerfyrddin. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua 1100 ac mae hyn yn amcangyfrif ceidwadol. Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.
Crynodeb o'r chwedl
Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder y Brenin Arthur yng Nghelliwig yng Nghernyw i gael ei gymorth a'i gyngor.
Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Gulhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio Mabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn haeddiannol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.