Dangosodd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 58,652 (1.2% o boblogaeth yr Alban, tair oed a throsodd)[6] o bobl yn yr Alban yn medru'r Aeleg i ryw raddau bryd hynny,[2]Ynysoedd Allanol Heledd yw cadarnle'r iaith. Yn ôl y cyfrifiad, bu gostyngiad o 7,300 yn siaradwyr yr Aeleg ers 1991. Mae ymdrechion i wella'r sefyllfa ac mae'r nifer o bobl ifanc sy'n medru'r iaith wedi codi.[7]
Tu allan i'r Alban, mae tafodieithoedd o'r iaith, a elwir yn Gaeleg Canada yn bodoli yng Nghanada ar Ynys Cape Breton ac ardaloedd arunig yn Nova Scotia. Mae gan yr amrywiad yma ryw 2,000 o siaradwyr, sy'n cyfrannu at 1.3% o boblogaeth yr Ynys.[10]
Yn y tabl isod, data'r cyfrifiad yw ffigurau 1755–2001, a ddyfynnir gan MacAuley.[11] Daw ffigurau siaradwyr Gaeleg 2011 o dabl KS206SC Cyfrifiad 2011 a ffigurau'r boblogaeth gyfan o dabl KS101SC. Sylwer mai ffigurau am rai 3 oed a throsodd yw rhai'r siaradwyr a chyfrifir y canrannau gan ddefnyddio'r boblogaeth oed 3 a throsodd.
Ond am Gaeleg yr Alban, gellir cyfeirio at yr iaith hefyd yn Gaeleg. Yn yr Alban, yngenir y gair Gaelic, wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban yn benodol, yn ˈgalɪk (galyg), ond tu allan i'r Alban, yngenir y gair fel arfer yn ˈɡeɪlɨk (geilyg).
Ni ddylid cymysgu Gaeleg yr Alban gyda Sgoteg, sy'n cyfeirio at fath o'r Saesneg a siaredir yn draddodiadol yn Iseldiroedd yr Alban. Cyn y 15fed canrif, cyfeiriwyd at y math o iaith yma yn Inglis ("Saesneg/English"), a chyfeiriwyd at Aeleg yr Alban yn Scottis ("Gaeleg yr Alban/Scottish"). Ond ers y 15fed canrif hwyr, daeth yn fwyfwy cyffredin i gyfeirio at Aeleg yr Alban yn Erse ("Gwyddeleg/Irish") ac iaith "frodorol" Iseldiroedd yr Alban yn Scottis.[12] Heddiw, cydnabyddir Gaeleg yr Alban yn iaith wahanol i Wyddeleg, felly na ddefnyddir y gair Erse wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban ragor.
Mae gan y mwyafrif o dafodieithodd Gaeleg rhwng wyth a naw prif lafariad ([ieɛaoɔuɤɯ]), a all fod naill ai'n hir neu'n fur. Hefyd, dwy lafariad wannach sydd, ([əɪ]), a fydd yn fyr bob tro. Er bod rhai llafariaid yn drwynol iawn, mae trwynoldeb gwahaniaethol yn brin. Mae rhyw naw deusain ac ambell deirsain.
Mae gan y rhan fwyaf o gytseiniaid ffurfiau daflodol a didaflodi, gan gynnwys system doreithiog o seiniau tawdd, trwynol a chrych (tair sain "l" gyferbyniol, tair "n" gyferbyniol a thair "r" gyferbyniol). Mae'r ffrwydrolion [bd̪ɡ], a fu'n lleisiol, wedi colli eu lleisio felly mae'r cyferbyniad erbyn hyn yn un anadlu, rhwng [pt̪k]dianadl a [pʰt̪ʰkʰ] anadlog. Mewn llawer o dafodieithoedd, caiff y ffrwydrolion hyn eu lleisio drwy ynganu eilaidd ar ôl gytsain drwynol, e.e. doras ('drws') [t̪ɔɾəs̪] ond an doras ('y drws') as [ən̪ˠd̪ɔɾəs̪] neu [ən̪ˠɔɾəs̪].
Mewn rhai ymadroddion sefydlog, collwyd y ffurfiau cysefin, fel an-dràsta ('nawr') o an tràth-sa "yr amser".
Ynghanol ac ar ddiwedd gair, mae'r ffrwydrolion anadlog yn rhaganadlog yn hytrach nag anadlog.
Gramadeg
Yn debyg i'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae gan Aeleg yr Alban nifer o nodweddion teipolegol diddorol:
Berf-goddrych-gwrthrych yw trefn sylfaenol y geiriau mewn brawddeg syml sy'n cynnwys berf gryno, nodwedd deipolegol sy'n eithaf prin ymhlith ieithoedd y byd.
Rhedeg arddodiaid: mae'r ffurfiau cymhleth yn tarddu o uniad arddodiad â rhagenw
Cystrawennau rhagenwol i ddangos meddiant a pherchnogaeth:
Nid yw'r orgraff yn dangos treiglad meddal l, n nac r, ac nid yw'n effeithio ar eiriau sy'n dechrau â llafariad nac ar eiriau sy'n dechrau ag sg, sm, sp, nac st.
Ar y llaw arall, mae meinhau neu daflodoli yn newid cytsain ar ddiwedd gair drwy ysgrifennu'r llythyren i o'i blaen, fel arfer:
Nid yw meinhau'n effeithio ar eiriau sy'n gorffen â llafariad (e.g. bàta "boat") neu ar gytseiniaid sydd eisoes yn fain (e.g. sràid "street").
Gellir esbonio y rhan fwyaf o achosion o feinhau cytsain yn hanesyddol fel dylanwad taflodol llafariad blaen (megis -i) o flaen y gytsain yng nghyfnodau cynnar yr iaith. Er bod y llafariad hon wedi diflannu erbyn hyn, mae'r effaith ar y gytsain ar ei hôl yn parhau.[13] Yn yr un modd y câi cytsain gychwynnol ei threiglo'n feddal gan lafariad olaf y gair blaenorol, ond nid yw hon yn dal i fod yn yr iaith fodern.[14]
Mae llawer o gytseiniaid ar ddiwedd geiriau wedi diflannu yn natblygiad Gaeleg yr Alban hefyd, ac mae olion y cytseiniaid hyn i'w gweld wrth ychwanegu llythrennau megis n-, h- a t- at eiriau ar ôl y fannod a'r rhagenwau meddiannol,[15] er enghraifft, athair "tad", a h-athair "ei thad", ar n-athair "ein tad", an t-athair "y tad".
↑MacAulay, Donald (1992). The Celtic Languages. Cambridge University Press. t. 141. ISBN0521231272. – quoting census data. No data recorded for monolingual Gaelic speakers from 1981
↑Companion to the Oxford English Dictionary, Tom McArthur, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1994