- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu).
Pentref yng nghymuned Trewalchmai, Ynys Môn, yw Gwalchmai( ynganiad ). Fe'i lleolir ar hyd yr A5, tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llangefni.
Yn agos iddo mae Llyn Hendref a Chors Bodwrog. Gwalchmai yw'r pentref sydd agosaf i 'gae Primin' (Sioe Amaethyddol Môn). I'r dwyrain o'r pentref i gyfeiriad Bodffordd ceir llain lanio sy'n perthyn i RAF Valley.
C.P.D Gwalchmai yw'r tîm pêl-droed lleol, ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm 'Burn-a-Ball' ym Maes Meurig.
Trewalchmai
Mae'n bosibl fod enw'r bardd Gwalchmai ap Meilyr yn cael ei goffháu yn enw'r pentref. "Trewalchmai" oedd yr hen enw, sy'n cofnodi'r ffaith fod y dreflan a'i thir wedi cael ei rhoi i'r bardd am ei wasanaeth i'r tywysog Owain Gwynedd. Gelwir y gymuned mae Gwalchmai yn ganolfan iddi yn Drewalchmai.[1]
Cadwraeth
Mae Cors Bodwrog ger Gwalchmai yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Adeiladau a chofadeiladau
Cyfeiriadau
- ↑ Sillafiad Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007), tud. 916