Pentref bychan a chymuned yn Ynys Môn yw Bodffordd[1][2] ( ynganiad ) (neu Botffordd). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys ar y lôn gefn B5109 tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Langefni, ar ben deheuol Llyn Cefni. Tri chwarter milltir i'r de mae Heneglwys ac mae Bodffordd ei hun yn rhan o'r plwyf eglwysig honno.
Fymryn i'r gorllewin o'r pentref ceir Maes Awyr Môn.
Hanes
Ystyr yr enw Bodffordd yw 'Anedd ar y ffordd', sef yr hen ffordd fawr ar draws Môn, o Borthaethwy i Gaergybi. Roedd Bodffordd yn perthyn i Esgob Bangor gynt; gelwid y "dref" fechan yn Bodffordd Ddeiniol (ar ôl Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn ôl y traddodiad) neu Bodffordd Esgob.[3] Roedd yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.
Eisteddfod
Cafodd Bodffordd ei ddewis fel lleoliad Eisteddfod Môn 2007.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Bodffordd (pob oed) (960) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodffordd) (680) |
|
72.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodffordd) (725) |
|
75.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodffordd) (138) |
|
32.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau