Pentref bychan yng nghymuned Llanfaelog, Ynys Môn, yw Pencarnisiog[1][2] ( ynganiad ) (hefyd: Pencaernisiog). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys ar yr A4080 tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfaelog a thua 8 filltir i'r gorllewin o dref Llangefni.
Ceir dwy ffordd o sillafu enw'r pentref. Yn yr Oesoedd Canol roedd treflan o'r enw "Conysiog" yno ("Tir Conws"). Tyfodd pentref bychan a galwyd y lle yn "Penconisiog". Tybid fod yr enw yn cynnwys y gair caer ac felly cafwyd yr enw "Pencaernisiog".[3]
Yn ymyl y pentref ceir siambr gladdu neolithig Tŷ Newydd.
Lleolir Ysgol Pencarnisiog yn y pentref, ysgol gynradd sydd yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern.
Cyfeiriadau