Saif y canton ger glan Llyn Léman neu Lyn Genefa, ac mae afon Rhône yn llifo trwyddo. Dim ond ar un canton arall y mae'n ffinio, Vaud yn y dwyrain. Fel arall, fe'i hamgylchynir gan Ffrainc. Ffrangeg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (75.8%).