Golygfa o Épesses tua'r gorllewin
Llyn yng ngorllewin Ewrop yw Llyn Léman neu Llyn Genefa (Ffrangeg : Lac Léman ). Mae'n debyg bod yr enw "Léman" o darddiad Celtaidd , trwy'r enw Lladin lacus Lemanus .
Saif ar y ffin rhwng y Swistir a Ffrainc . Llifa Afon Rhône i mewn iddo yn y dwyrain ac allan yn y gorllewin. Mae'n 72.8 km o hyd, gydag arwynebedd o 582.4 km² a dyfnder o 309.7 medr yn y man dyfnaf. Mae'r lan ddeheuol yn département Haute-Savoie yn Ffrainc, a'r lan ogleddol wedi ei rhannu rhwng tri canton yn y Swistir, Genefa ,
Vaud a Valais . Ymhlith y dinasoedd ar ei lannau mae Genefa , Lausanne , Montreux , Villeneuve , Saint-Sulpice Évian-les-Bains , Lutry , Cully ac Yvoire . Ar ynys yn y llyn mae Castell Chillon .
Yn 58 CC, curwyd byddin Rufeinig gan fyddin o Helvetiaid dan arweiniad Divico ger y llyn.
Map o ardal Llyn Léman