Un o gantonau'r Swistir yw Uri (UR). Saif yng nghanolbarth y Swistir. Roedd Uri yn un o'r tri canton gwreiddiol, gyda Schwytz ac Unterwalden, a arwyddodd y cytundeb ffederal a sefydlodd y Conffederasiwn Swisaidd yn 1291. Yn ôl traddodiad, brodor o Uri oedd Gwilym Tell. Y brifddinas yw Altdorf.
Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 35,000. Almaeneg yw prif iaith y canton.