Un o gantonau'r Swistir yw Obwalden (Ffrangeg: Obwald), yn swyddogol hefyd Unterwalden ob dem Wald. Saif yng nghanolbarth y Swistir, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 33,300. Prifddinas y canton yw Sarnen.
Hanner canton yw Obwalden. Mae hyn yn golygu nad oes ganddo ond un cynrychiolydd yn y Ständerat, a bod y canlyniad mewn refferendwm yn cyfrif fel hanner canlyniad canton llawn. Fel arall, mae ganddo'r un hawliau a'r cantonau eraill.
Saif Obwalden yr yr Alpau; y copa uchaf yw Titlis, 3,238 medr. Almaeneg yw iaith gyntaf y rhan fwyaf o'r trigolion (92.3%), ac o ran crefydd roedd 88.7% yn Gatholigion a 7% yn brotestaniaid yn 2003.