Telynor o Gymru oedd Edward Jones ("Bardd y Brenin") (Mawrth 1752 - 18 Ebrill 1824). Roedd yn frodor o blwyf Llandderfel, Meirionnydd (Gwynedd).[1]
Ganwyd Bardd y Brenin ar fferm yr Henblas, Llandderfel, yn yr hen Sir Feirionnydd yn blentyn i John Jones a Jane ei wraig. Roedd yn dod o deulu cerddorol, roedd ei dad yn cannu'r delyn y crwth a nifer o offerynnau eraill; bu Robert, brawd Bardd y Brenin yn organydd cyflogedig yn Eglwys Sant Chad yr Amwythig. Roedd brawd arall iddo, Thomas, hefyd yn delynor poblogaidd yn Llundain. [2]
Symudodd Edward Jones i Lundain dan nawdd Gwyneddigion Llundain. Trwy'r Gwyneddigion cafodd ei gyflwyno i gylch o foneddigion Cymreig a Seisnig yn y ddinas. Dechreuodd rhoi gwersi cerddorol a datganiadau preifat i nifer o'r teuluoedd urddasol hyn.[3] Cyn bo hir daeth y teulu brenhinol i wybod am y cerddor dawnus. Ym 1783 fe'i penodwyd yn delynor i George Augustus Frederick, Tywysog Cymru. Pan ddaeth y tywysog yn Frenin Siôr IV ym 1820, dechreuodd Edward Jones galw ei hun "Bardd y Brenin".[4] (Roedd Jones yn defnyddio'r term "bardd" mewn ffordd ehangach na'i defnydd presennol. Roedd yn credu bod y term bardd yn cwmpasu'r sawl oedd yn hyddysg mewn unrhyw un o gelfyddydau'r hen dderwyddon gan gynnwys cerddoriaeth.[5])
Cymerai Bardd y Brenin diddordeb mawr mewn cerddoriaeth draddodiadol o bob parth o'r byd. Ym 1804 cyhoeddodd Lyric Airs, casgliad o gerddoriaeth oedd yn cynnwys tonnau o wlad Roeg, Albania, Walachia, Twrci, Arabia, Persia, a Tsieina. Yn 1813 cyhoeddodd Terpsichore's Banquet oedd yn cynnwys cerddoriaeth Sbaen, Rwsia, Sweden, ac Armenia.
Gwaith mwyaf Bardd y Brenin oedd ei gasgliadau o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Casglodd nifer o'r caneuon trwy ofyn i bobl yng Nghymru a Llundain i ganu hen ganeuon ac alawon iddo ac yna eu cofnodi ar bapur. Bu hefyd yn gwneud ymchwil mewn amgueddfeydd a llyfrgelloedd. Cyhoeddodd ei gasgliad o alawon Cymreig mewn tair cyfrol:[6]
Bu Bardd y Brenin yn rhan o'r cyfarfod cyntaf o Orsedd y Beirdd ar Byn y Briallu, Llundain ym 1792.
Cafodd Bardd y Brenin ffit yn ei gartref yn Marylebone, Middlesex, a bu farw deuddydd wedyn ar 18 Ebrill 1824. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Marylebone.