Dom saim

Mae dom saim yn fàs congealed mewn system garthffos a ffurfiwyd gan y cyfuniad o ddeunydd solet nad sy'n bioddiraddadwy wedi'i fflysio, fel cadachau gwlyb ("we

Dom saim
Dom saim
Mathsbwriel Edit this on Wikidata
Deunyddwet wipe, braster, Clwt mislif, Ffullyn cotwm, condom, food waste Edit this on Wikidata
Lleoliadsewer line Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft o ddom saim yn y 'Poo Museum' ar Ynys Wyth
Dom Saim - talp sych yn Amgueddfa Llundain

Mae dom saim yn fàs congealed mewn system garthffos a ffurfiwyd gan y cyfuniad o ddeunydd solet nad sy'n bioddiraddadwy wedi'i fflysio, fel cadachau gwlyb ("wet wipes"), a saim congealed neu saim coginio.[1][2] Daeth domau saim yn broblem yn y 2010au ym Mhrydain, oherwydd bod systemau carthffosiaeth Fictoraidd yn heneiddio a'r cynnydd yn y defnydd o llieniau tafladwy sy'n cael eu fflysio lawr y tŷ bach.

Disgrifiad

Mae domau saim yn ffurfio ar arwynebau garw carthffosydd lle mae llif yr hylif yn mynd yn gythryblus. Mewn pibellau a thiwbiau â leininau mewnol llyfn, mae hylif ger y wal sy'n cynnwys yn llifo ychydig yn arafach na hylif yn sianel ganolog y bibell; felly, mae cyfaint cyfan yr hylif yn llifo'n llyfn ac yn rhydd. Pan fydd hylif yn dod ar draws rhwystr, mae chwyrlïen o ddŵr yn dechrau dal malurion.

Gall rhwystr fod yn unrhyw fath o arwyneb garw sy'n gallu sleifio malurion. Mewn carthffosydd brics neu goncrit efallai y bydd diferion sment dros ben, gwaith brics wedi'i ddifrodi, neu gymalau morter rhydd wedi'u difrodi gan rhew. Mewn unrhyw bibell is-wyneb, hyd yn oed o'r dyluniad mwyaf datblygedig, mae treiddiad gan ymyriadau allanol fel gwreiddiau coed yn achos cyffredin o rwystr braster.

Mewn carthffosydd sy'n cario hylifau alcalïaidd, gall lipidau gael eu calchynnu a'u solidoli..[3] Yn cynnwys nid yn unig cadachau gwlyb a braster, gall brychau braster gynnwys eitemau eraill nad ydynt yn torri ar wahân neu'n hydoddi wrth eu fflysio i lawr y toiled, fel tampon, ffullon cotwm, nodwyddau,[4] condomau a gwastraff bwyd wedi'i olchi i lawr sinciau cegin.[1][5][6] Cafwyd ymgyrch ar-lein gan Dŵr Cymru yn galw ar bobl i beidio fflysio "hancesi dŵr" (wet wipes) lawr y tŷ bach er mwyn osgoi tagu'r system.[7] Gall y lympiau sy'n deillio o ddeunydd tagfeydd fod mor gryf â choncrit, ac mae angen offer arbenigol i'w dynnu.[1]

Mewn rhai ardaloedd, fel Llundain, gall braster sydd wedi'i flocio mewn carthffos ymateb gyda leinin y bibell a chael ei seboneiddiad ("saponification"), gan drosi'r olew yn sylwedd solet, tebyg i sebon.[4]

Gall rhwystrau saim a braster achosi gorlifo carthffosiaeth iechydol, lle mae carthffosiaeth yn cael ei ollwng i'r amgylchedd heb driniaeth. Yn yr Unol Daleithiau, mae bron i hanner yr holl rwystrau carthffosydd yn cael eu hachosi gan saim.[8]

Mae Domau Saim wedi cael eu hystyried fel ffynhonnell tanwydd,[9] a'n benodol bionwy.[10] Troswyd y rhan fwyaf o'r domau saim a ddarganfuwyd yn Whitechapel yn Llundain yn 2017, yn pwyso 130 tunnell (130,000 kg) ac yn ymestyn mwy na 250 metr (820 tr), yn fiodiesel.[4][11]

Gellir lliniaru Dom Saim trwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch gwastraff fflamadwy a thrapiau saim i'w hidlo yn y ffynhonnell.[3] Mae ymgyrchoedd wedi cael eu lansio yn erbyn cadachau gwlyb oherwydd eu heffaith ar systemau carthffosydd, yn fwyaf arbennig gan "Surfers Against Sewage" a’r Marine Conservation Society, ymhlith cyrff anllywodraethol amgylcheddol eraill, a alwodd ar Awdurdod Safonau Hysbysebu’r DU i roi diwedd ar frandio a phecynnu “camarweiniol”.[12]

Digwyddiad

Mae domau saim i'w cael mewn systemau carthffosydd ledled y byd, mewn dinasoedd a threfi llai. Mae fatbergs enfawr wedi blocio carthffosydd yn Llundain, Efrog Newydd, Denver, Valencia, a Melbourne.[13]

Etymoleg

Defnyddir y gair "fatberg" yn Saesneg a sawl iaith arall. Yn yr ieithoedd Germanaidd fod y geiriau "fat" a "berg" yn gyffredin iddynt i gyd ceir "Fettberg" (Almaeneg), "fettberg" (Swedeg) a "vetberg" (Iseldireg). Mae'n air cyfansawdd sy'n golygu "mynydd saim" ond hefyd yn dilyn ar ôl y gair a'r cysyniad o "iceberg". Defnyddiwyd y gair gyntaf mewn cyd-destun Cymreig, a hynny yn 2008 i ddisgrifio "large, rock-like lumps of cooking fat" a oedd wedi eu golchi i'r lan ar hyd traethau Cymru. Erbyn 2010 daeth i gyfeirio at y carthion sbwriel oedd yn tagu systemau carthffosiaeth Llundain.[14]

Etymoleg Cymraeg

Tueddwyd i ddefnyddio'r term Saesneg 'fatberg' yn y Gymraeg neu'r calque, 'mynydd braster'. Bathwyd y gair Dom Saim gan Dafydd Palfrey (gitarydd flaen grŵp Hanner Pei) ar 8 Gorffennaf 2020 yn dilyn ymholiad ar Twitter gan Siôn Jobbins oedd am ysgrifennu erthygl i'r Wicipedia am y ffenomenon.[15] Cafwyd sawl cynnig. Nodwyd i Golwg360 ddefnyddio'r term 'mynydd braster' mewn erthygl yn 2019.[16]

Ymysg awgrymiadau ar gyfer enw oedd: mynydd braster, saimfynydd, brasfryn, tewlif, braslif, tewfryn, brasfynydd, seimlif, bloneglif a twlpyn saim.[15][17] Amser a ddengys a fydd 'dom saim' yn ennill ei phlwyf fel y term cyffredin a safonnol yn y Gymraeg.

Cymru a domau saim

  • Rhagfyr 2018: ffilmiwyd ymdrech i ryddhau Dom Saim 500 tunnell yn ardal Bae Caerdydd.[18]
  • Ionawr 2015: Fel rhan o ymgyrch yn i godi ymwybyddiaeth pobl o arferion a deunydd sy'n blocio draen, rhyddhaodd Dŵr Cymru fideo o ddom saim mewn drawnau yng Nghaerdydd.[19]
  • Gorffennaf 2015: A 120-metr-long (390 tr) darganfyddwyd dom saim yn y Trallwng, Powys.[20]

Ymchwil Prifysgol Aberystwyth

Yn 2018 staff o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar raglen Channel 4 ‘Fatberg Autopsy: Secrets of the Sewers’. Cafodd Yr Athro Jo Hamilton a Dr Justin Pachebat o IBERS eu comisiynu gan Uned Wyddoniaeth y BBC i wneud dadansoddiad molecylaidd o dom saim i chwilio am barasitiaid a bacteria.

Daeth y gwyddonwyr o hyd i Campylobacter, E.coli a Listeria - rhywogaethau sy'n achosi gwenwyn bwyd yn aml mewn pobl - a rhai mathau o facteria a all wrthsefyll gwrthfiotigau. Yn ogystal â hyn, roedd yno nifer o 'eitemau' personol yn y braster, gan gynnwys 'cotton buds' a chondom menyw. Daethong hefyd o hyd i rai wyau parasitiaid a allai fod yn un o ddwy rywogaeth o bryfaid genwair, Alaria alata neu Fasciola hepatica.[21]

Dom Saim a COVID-19

  • Ebrill 2020: Un o sgil effeithiau Pandemig COVID-19 yn 2020 oedd dom saim anfer yn Melbourne, Awstralia. Darganfyddwyd y dom saim 42 tunnell, maint tancer petrol yn y ddinas. Beiwyd y maint anarferol o fawr (roedd llawer mwy na domau sain mawr Awstralia yn 2014 a 2016) yn fwy na dim bobl yn prynu panig papur tŷ bach a achoswyd oherwydd pryder adeg cychwyn ymlediad y Gofid Mawr.[22][23]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 "Monster fatberg longer than two Wembley football pitches clogging up Whitechapel sewer". corporate.thameswater.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mawrth 2019. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2020.
  2. "Wet wipes could face wipe-out". BBC News (yn Saesneg). 2018-05-08. Cyrchwyd 8 Mai 2018.
  3. 3.0 3.1 "Don't feed the fatberg! What a slice of oily sewage says about modern life". The Guardian. 18 Chwefror 2018.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Fatberg! Exhibiting the Monster of Whitechapel". Museum of London.
  5. Williams, Rob (5 Awst 2013). "Britain's biggest ever 'fatberg' – the size of a bus and weighing 15 tonnes – found in London drain". The Independent.
  6. Edwards, Jim. "Gross Photos Show Sewer Workers Battling A 'Fatberg' The Size of a Boeing 747 Under London". Business Insider. Cyrchwyd 1 Medi 2014.
  7. https://www.youtube.com/watch?v=1zH-4LtC_O8
  8. Report to Congress: Impacts and Control of Combined Sewer Overflows and Sanitary Sewer Overflows (Adroddiad). Washington, D.C.: United States Environmental Protection Agency (EPA). Awst 2004. pp. 4–28. EPA 833-R-04-001. https://www.epa.gov/npdes/2004-npdes-cso-report-congress.
  9. "Kevin McCloud's Man Made Home". Channel 4.
  10. "Thames Water and 2OC in £200m deal to turn 'fatbergs' into energy". waterbriefing.org. 8 Ebrill 2013. Cyrchwyd 2 Mehefin 2013.
  11. "'Monster' Whitechapel fatberg unveiled at London museum". BBC News. 8 Chwefror 2018. Cyrchwyd 11 Mai 2018.
  12. "Wessex Water lodge 'flushable' wet wipes complaint with Advertising Standards Authority". Bath Echo. 21 Medi 2016. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2019.
  13. Quevatre, Chris (20 Ionawr 2019). "War on fatbergs: Can this 21st Century peril be blitzed?". BBC. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
  14. "fatberg, n." www.oed.com (yn Saesneg). Oxford English Dictionary. Cyrchwyd 23 Chwefror 2020.
  15. 15.0 15.1 https://twitter.com/MarchGlas/status/1280954337796280321
  16. "Clirio 'mynydd braster' o faint bws deulawr o selerydd Llundain". Golwg360. 2020.
  17. https://twitter.com/englishtainment/status/1281184669892042752
  18. "Grimefighters tackling a giant fatberg remove 800 tonnes of grease!". Sianel youtube y Daily Mail. 2019.
  19. "'Fatberg' found blocking Cardiff sewer". BBC News. 10 Chwefror 2015.
  20. "120m fat blockage found in sewer" (yn Saesneg). BBC News. 8 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
  21. "Beth sy'n llechu mewn 'fatberg'?". Prifysgol Aberystwyth. 2018.
  22. "The flushed items that caused a 42-tonne 'fatberg' in Melbourne". 7NEWS.com.au (yn Saesneg). 14 Ebrill 2020. Cyrchwyd 2020-04-14.
  23. "Giant fatberg heavier than petrol tanker discovered in Melbourne sewer". www.9news.com.au. Cyrchwyd 2020-04-14.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.