Mae Listeria yn genws o facteria a oedd, tan 1992, yn cynnwys deg rhywogaeth hysbys,[1][2] a phob un o'r rheiny yn cynnwys d
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Safle tacson | genws |
| Rhiant dacson | Listeriaceae |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03d7w6 |
| Quora | Listeria |
Mae Listeria yn genws o facteria a oedd, tan 1992, yn cynnwys deg rhywogaeth hysbys,[1][2] a phob un o'r rheiny yn cynnwys dau isrywogaeth. Ers 2014, nodwyd pum rhywogaeth arall.[3] Cafodd ei enwi ar ôl yr arloeswr ym maes llawfeddygaeth di-haint Prydeinig Joseph Lister, cafodd y genws ei enw cyfredol yn 1940. Y prif bathogen pobl yn y genws Listeria yw L. monocytogenes. Fel arfer, dyma'r asiant sy'n achosi'r afiechyd bacteriol gweddol brin listeriosis, haint ddifrifol a achosir drwy fwyta bwyd sydd wedi'i halogi â'r bacteria. Mae'r afiechyd yn effeithio menywod beichiog, babnod newydd anedig, oedolion sydd ag imiwnedd gwan, a'r henoed.
Mae Listeriosis yn glefyd difrifol i bobl; mae gan ffurf amlycaf yr afiechyd gyfradd marwolaeth yn ôl achosion o oddeutu 20%. Sepsis a meningitis yw'r ddau brif achos. Caiff meningitis ei gymhlethu'n aml gan encephalitis, pan gaiff ei adnabod fel meningoencephalitis. Gall y cyfnod datblygu amrywio o rhwng tri a 70 diwrnod.[4]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.