Mae'r caffi traddodiadol, yn le bwyta sy'n gweini diodydd poeth ac oer, a phrydau megis brecwast traddodiadol. Gelwir caffis o'r fath, â chariad neu dirmyg, yn
| Enghraifft o: | type of restaurant |
|---|---|
| Math | bwyty |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |


| Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon – diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 19 Awst 2026, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwyddynt? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Mae'r caffi traddodiadol, yn le bwyta sy'n gweini diodydd poeth ac oer, a phrydau megis brecwast traddodiadol. Gelwir caffis o'r fath, â chariad neu dirmyg, yn greasy spoon caff neu caff. Mae caffi yn wahanol i'r arddull fwy Ewropeaidd o dŷ coffi.[1] Nid yw'r caffi draddodiadol Brydeinig fel arfer yn gweini alcohol,[2][3][4][5] mae, fel rheol, yn fusnes teuluol ac annibynnol, ac mae'n dueddol o fod yn rhatach. Ceir caffis ochr ffordd a arferai weini gyrrwyr loris, er bod rheini wedi prinhau gyda newid chwaeth a dyfodiad cafés a bwytai cadwyn mawr ar ochr hyd traffyrdd Prydain.
Fel arfer, mae caffi traddodiadol Prydeinig yn cynnig bwyd wedi'i ffrio neu wedi'i grilio fel "brecwast traddodiadol" drwy'r dydd, a all gynnwys cyfuniad o gynhwysion fel wy wedi'i ffrio; bacwn, pwdin gwaed, tatws wedi ffrio, hash browns, ffa pôb, bara saim, tost, tomato wedi'i grilio, byrgyrs, selsig, madarch, a sglodion.[6] Gall brechdanau gyda chynhwysion poeth ac oer fod ar gael, fel brechdan bacwn neu selsig. Gall amrywiaeth o brydau wedi'u coginio eraill fod ar gael, fel pastai stêc ac aren, cinio rhost llawn, afu a nionod, neu seigiau pasta, gyda phwdinau Prydeinig fel pwdin wedi'i goginio fel crymbl afal a chwstard.[1]
Y prif ddiod mewn caffi fel arfer yw te, yn enwedig "te tramp" (llysenw ar gyfer mwg heb depot. Fodd bynnag, gydag amser, mae natur a safon y coffi wedi newid a gwella gyda'r rhan fwyaf o gaffis yn defnyddio peiriannau espresso er mwyn dilyn chwaeth mwy arbenigol yr oes sydd ddim yn bodloni ar goffi parod.

Enghraiff cynnar o gân pop Cymraeg sy'n sôn am y caffi 'traddodiadol' yw Caffi Gaerwen gan y ddeuawd boblogaidd o'r 1960au a 70au cynnar, Tony ac Aloma.[7] Cana'r ddeuawd o Fôn am gaffi y 'Little Chef' oedd ar hyd yr A5 ym mhentref Gaerwen a'r staff, "Pat a Janis ac Elsi a Glen". Cymaint bu llwyddiant y gân fel y bu i'r newyddiadurwr Gwilym Owen o HTV ffilmio eitem am y caffi a'i staff rhai wythnosau wedi rhyddhau'r record.[8]
- Mae rhai sy'n licio troi allan
- mewn dillad neis i gael sgram
- a dewis hotel sydd yn syrfio
- tatw rhost a boiled ham
- Ond bodlon wyf fi yn y caffi
- mae pawb yn hapus a chlên
- yn llewys fy nghrys,
- caf wy, chips a phys
Portreadwyd bwyd ac awyrgylch y caffi traddodiadol hefyd yn y gân Sosej, Bîns, a Chips gan y grŵp pop Rocyn yn 1982.[9] Mae geiriau'r gân yn sôn mor anodd yw hi i'r canwr "gadw ar y deiet" ac, wedi cael digon, mae'n mynd "i'r caff" i fwynhau bwyta bwyd traddodiadol:
- I frecwast, rwy’n bwyta hanner wy, afal a choffi du
- Cinio: tomato a ounce o letis, cadw fe dan y mil calori
- Oh, mae’n anodd aros ar ddiet,
- Mae pob un yn dweud bod e’n rhwydd ond mae’n galed imi
- Felly mewn i fi i’r caff, sosej bins a chips, wehei!,
- Ie, mewn i fi i’r caff, sosej bins a chips, wehei!
Yn y fideo o'r gân gwelir y prif ganwr, Jim O'Rourke yn gorlenwi ei blât gyda'r 'brecwast traddodiadol' - sosej, bîns, a chips, mewn caffi traddodiadol.[10]
Ar yr albwm Sombreros yn y Glaw gan Anweledig mae'r gân Merch Coffi yn cyfeirio at "ewyn gwyn" (y coffi) a gwisg draddodiadol gweinyddwraig, sef "sgert ddu tyn a’i blows gwyn sidan".
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.