Grŵp roc Cymraeg o'r 1980au cynnar oedd Rocyn. Disgrifiwyd hwy fel "band amser da".[1] Prif ganwr a chyfansoddwr y band oedd Jim O'Rourke a bu'n brif l
| Enghraifft o: | band |
|---|---|
| Iaith | Cymraeg |
| Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
| Dod i'r brig | 1981 |
| Dod i ben | 1983 |
| Genre | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd |
| Dynodwyr | |
Grŵp roc Cymraeg o'r 1980au cynnar oedd Rocyn. Disgrifiwyd hwy fel "band amser da".[1] Prif ganwr a chyfansoddwr y band oedd Jim O'Rourke a bu'n brif leisydd a chyfansoddwr i'r grŵp oedd yn gweithio yng Gwersyll yr Urdd Llangrannog ar y pryd. Aeth Jim ymlaen i sefydlu Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth wedi i Rocyn ddod i ben.
Daw'r enw Rocyn o'r gair yn nhafodiait Cymraeg Sir Benfro am "fachgen".[2]
Caneuon mwyaf poblogaidd y grŵp oedd Sosej Bîns a Chips, American Express a Tomen o Wallt.[1]
Dechreuodd O'Rourke cyfansoddi caneuon ar ôl iddo ymuno gyda grŵp i chwarae mewn pantomeim yng Nghrymych ar ddechrau’r 1980au. Roeddynt ar ei hanterth rhwng 1981-82. Roedd y grŵp yn rhan o sîn canu pop Cymraeg fywyiog yn ardal Dyffryn Teifi a alwyd yn chwaraes yn “Teifi Bît”. Yn rhan o'r don yma oedd grwpiau eraill o'r ardal fel Ail Symudiad, Malcolm Neon, Datblygu a’r Diawled yn rhan o’r cyfnod cyffrous hwnnw, gyda gigs cyson ym Mlaendyffryn a phentrefi ar draws yr ardal Dyfed yn arbennig.
Cychwynnodd Rocyn gyda’i gig cyntaf yn Neuadd Cilgerran gyda Hywel Davies ar y drymiau, Keith Gibby ar bâs, Geraint Jones ar gitâr a finnau ar yr allweddellau. Cyn recordio’r tâp cyntaf Rocyn yn Nhŷ Puw ymunodd Elfyn Evans ar y gitâr flaen ac yna tua 6 mis yn ddiweddarach recordiwyd y sengl cyntaf i label Recordiau Sain sef Merch â Llygaid Oer. Newidiodd y drymiwr wedyn i Dafydd Owen o Arberth ac aeth Rocyn ymlaen i wneud dros 100 o gigs mewn ychydig o dan dwy flynedd ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt gan gynnwys taith lwyddiannus i Lydaw yn 1982.
Rhyddhawyd yr ail sengl “Sosej Bîns a Chips” yn haf 1982, a darlledwyd fideo o’r gân ar raglen gyntaf S4C fel sianel newydd yn Hydref 1982. Roedd Rocyn yn fand hwyliog, ond roedd neges hefyd i nifer o’i caneuon. Ymunodd Hubert fel “dyn sain” y band ar ôl yr ail gig. Buddsoddwyd yn helaeth mewn offer trydanol trosglwyddo sain. Ar ddiwedd cyfnod Rocyn sefydlwyd Cwmni sain Rocyn gan Hubert a Jim O'Rourke. Datblygodd y cwmni i fod un o’r prif gwmnïau yn y maes darparu systemau sain gan gynnig gwasanaethau i amrywiaeth o ddigwyddiadau, teithiau a gigs ym Mhrydain ac Iwerddon.
Daeth diwedd cyfnod i Rocyn wrth O'Rourke dderbyn swydd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ond ar ôl rhai blynyddoedd ffurfiwyd Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth sef : Brian Breeze ar gitâr (roeddwn wedi cyfarfod ag ef yn ystod sesiwn recordio “Sosej” yn stiwdio Richard Morris – Brian sy’n chwerthin yn y cefndir!), Wyn Jones o Ail Symudiad ar y bâs, Gordon Jones o’r band Eliffant ar y drymiau a finnau ar yr allweddellau.[3]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd yn 2008 ail sefydlodd Jim O'Rourke ei grŵp i lansio CD dan label Recordiau Sain oedd yn gasgliad o'i ganeuon. Chwaraeodd y grŵp yn yr Eisteddfod ac yna taith fer yng ngaeaf 2008-09 i ail greu hwyl gigs yr 1980au yn lleoliadau fel Blaen Dyffryn a Talybont.[4]
Cafwyd gwahanol aelodau i'r grŵp gyda cnewyllun sefydlog ac yna aelodau yn cyfrannu dros dro, neu, yn achos albwm Pentigili, ar gyfer traciau arbennig. Jim O'Rourke oedd prif leisydd a chyfansoddwr y band trwy gydol y cyfnod.
Prif aelodau:[3]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.