Mae ffa pob (hefyd bîns[1] o'r Saesneg Baked Beans)[2] yn saig draddodiadol yng Ngwledydd Prydain ac yn Unol Daleithiau America, sef ffa gwyn w
| Math | saig |
|---|---|
| Deunydd | saws, ffeuen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/018bp6 |

Mae ffa pob (hefyd bîns[1] o'r Saesneg Baked Beans)[2] yn saig draddodiadol yng Ngwledydd Prydain ac yn Unol Daleithiau America, sef ffa gwyn wedi'u pobi gyda saws tomato. Mae ffa pob yn rhan annatod o "frecwast traddodiadol"[3] ac yn saig atodol poblogaidd mewn barbeciws yn yr Unol Daleithiau. Er gwaetha'r enw, mae ffa pob yn cael eu rhan-rewi gyntaf ac yna eu pobi ar dymheredd isel am gyfnod hir.[4] Dydy ffa pob mewn tun heb eu pobi mewn gwirionedd, ond wedi eu coginio drwy eu stemio.[5]
I baratoi ffa pob gartref, trochir y ffa gwyn sych (ffeuen haricot fel rheol) mewn dŵr am sawl awr yna sesnwch nhw gyda saws tomato a thriagl neu siwgr brown. Mae ffa mewn saws siwgr brown, siwgr, neu surop corn (gyda thomatos neu hebddynt) ar gael mewn llawer o wledydd. Cwmni Kraft Heinz yw'r gwneuthurwr mwyaf o ffa pob tun yn Ewrop[6] tra mai Bush Brothers yw'r cynhyrchydd mwyaf yn yr Unol Daleithiau.[7]
Defnyddir ffa pob tun fel bwyd cyfleus; mae'r rhan fwyaf yn cael eu gwneud o ffa haricot mewn saws. Yn draddodiadol, cânt eu gweini'n boeth, er, gellir eu bwyta'n oer ac yn syth o'r tun, gan eu bod wedi'u coginio'n llawn.[8] Dechreuodd Heinz gynhyrchu ffa pob tun yn 1886. Ar ddechrau'r 20g, daeth ffa pob tun yn fwy cyffredin, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig, lle mae'n gyffredin eu gweini fel rhan o frecwast llawn.
Mae'r ffa gwyn a ddefnyddir fel arfer yn dod o'r rhywogaeth Phaseolus vulgaris (y Ffeuen Ffrengig) ac felly maent yn wreiddiol o'r Amerig. Cyrhaeddon nhw Ewrop gyda gwladychwyr Ewropeaidd. Roedd Americanwyr Brodorol eisoes yn paratoi ffa gwyn gyda surop masarn a braster arth mewn pot clai uwchben pwll wedi'i lenwi â cherrig poeth neu ludw poeth. Dros amser, disodlodd ymsefydlwyr Ewropeaidd y pot clai â sosban, y surop masarn â suropau eraill, a'r braster arth â braster porc. Daeth saws tomato yn gynhwysyn safonol yn y saig ar ddiwedd y 19g.[9]
Roedd y paratoad addasedig hwn yn arbennig o boblogaidd yn nhaleithiau Lloegr Newydd. Yn y 19g, ffa pob gyda bara oedd prif gwrs safonol y Sul. Ymhlith pethau eraill, roedd hyn yn caniatáu i deuluoedd Cristnogol llym Lloegr Newydd osgoi tasgau dyddiol coginio ar y Sul sanctaidd. Roedd teuluoedd naill ai'n pobi'r ffa yn eu poptai eu hunain neu, os nad oedd ganddynt ffwrn, yn mynd â nhw at y pobydd nos Sadwrn i'w casglu wedi'u paratoi ar y Sul.[10] Dyma ddyfyniad o rysáit nodweddiadol o Loegr Newydd:
“Cymerwch 1 1/2 chwart o ffa gwyn a’u socian dros nos mewn dŵr oer. Y bore wedyn, tynnwch nhw allan, golchwch nhw a’u tocio’n dda, yna rhowch nhw mewn pot a’u berwi nes eu bod yn dyner. Yna arllwyswch nhw i lestr pridd. Torrwch ddarn braf o borc a’i roi ar ben y ffa. Pobwch nes eu bod wedi brownio’n dda. Mae hwn yn saig da ar gyfer diwrnod gaeaf.”[11]
Wrth i lawer o deuluoedd ddisodli eu ffyrnau brics traddodiadol gyda ffyrnau haearn llai yn ystod y 19g, cynyddodd nifer y ffa pob yn ystod yr amser hwn. Daeth triagl yn ychwanegiad cyffredin tua 1870. O’i gymharu â ryseitiau traddodiadol, mae cyfran y triagl wedi cynyddu’n sylweddol yn yr 20g. Mae ffa pob heddiw fel arfer yn llawer melysach na’u rhagflaenwyr o’r 18g a’r 19g.[10] Mae ffa pob yn rhan annatod o goginio bob dydd, yn enwedig yn Lloegr Newydd, ac mae Boston yn cael ei lysenwi’n Dref Ffa.[angen ffynhonnell] Mewn llawer o gymunedau gwledig yn Lloegr Newydd, mae swperau eglwysig yn dal i gael eu cynnal yn rheolaidd ar y Sul. Yn y cyfarfodydd cymdeithasol hyn, ffa pob a bara yw'r prif gwrs. Mewn ardaloedd gwledig neu dwristaidd ym Maine, mae'r ffa weithiau'n dal i gael eu coginio'n draddodiadol mewn popty pridd. O Loegr Newydd, lledaenodd y saig i Loegr.[9]
Mae ffa pob hefyd ar gael mewn caniau. Roedden nhw'n un o'r bwydydd cyntaf erioed i gael eu canio. Ym 186, cynhyrchodd y cwmni Burnham & Morrill (B&M) o Portland, Maine, "ffa pobi brics".[10] Mae ffa pob mor bwysig yn y gwledydd Eingl-Americanaidd nes eu bod wedi'u rhestru fel grŵp cynnyrch ar wahân mewn ystadegau safonol y diwydiant, ochr yn ochr â thomatos a phob llysieuyn arall. Ym Mhrydain Fawr, er enghraifft, mae gwerthiant ffa pob yn cyrraedd dwy ran o dair o werthiant yr holl lysiau tun eraill gyda'i gilydd. Yn wahanol i lysiau tun eraill, mae'r defnydd o ffa pob yno yn cael ei ddylanwadu'n fawr gan frandiau penodol, ac mae'r gyllideb hysbysebu ar gyfer ffa pob yn llawer uwch nag ar gyfer cynhyrchion cymharol. Ar ben hynny, cynhyrchir ffa pob ar raddfa fyd-eang gan gwmnïau yn wahanol i lysiau tun eraill.[12]
Ar lafar defnyddir y gair bîns[13] ('beans' Saesneg yn yr orgraff Gymraeg). Gwelir enghraifft o hyn yn y gân 'Sosej, bîns, a Chips' gan y grŵp Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth o'r 1980au cynnar. Mae'r gân yn sôn am fynd i gael bwyd traddodiadol mewn caff yn lle "cadw ar y deiet".[14]
Yn y byd Arabaidd, mae pryd tebyg - Foul Medammes - yn gyffredin. Fel arfer caiff hwn ei baratoi gyda ffa fava, sy'n tarddu o Asia. Yn yr un modd, mae gigantes (ffa tân wedi'u pobi yn y popty gyda saws tomato) yn bryd o fwyd yng Ngwlad Groeg. Mae'r cassoulet Ffrengig yn dod yn agos iawn at y paratoad gwreiddiol o ffa pob.
|title= (help)
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.