Duw Groegaidd a Rhufeinig oedd Apollo neu Apolon[1] (Hen Roeg: Ἀπόλλων; Lladin Apollo). Ym mytholeg Roeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, prof
| Enghraifft o: | duw Groeg, duwdod heulol, duw Olympaidd, duwdod Rhufeinig |
|---|---|
| Rhan o | Deuddeg Olympiad, Dii Consentes |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0hd7 |


Duw Groegaidd a Rhufeinig oedd Apollo neu Apolon[1] (Hen Roeg: Ἀπόλλων; Lladin Apollo). Ym mytholeg Roeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, proffwydoliaeth a'r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd Oracl Apollo yn Delffi yn cael ei ystyried yn oracl pwysicaf yr hen fyd. Roedd yn un o ddeuddeg duw pwysicaf y pantheon Groegaidd.
Roedd yn fab i Zews a Leto, ac yn efaill i'r dduwies Artemis. Dywedir iddo gael ei eni ar ynys Delos. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. Mae'r ffurf Dorig Απέλλων yn hŷn ac yn tarddu o ffurf cynharach eto, sef: Απέλjων. Yn sicr, gellir gweld cyswllt rhwng yr enw â'r mis Dorig Απέλλαιος a gyda'r hen ŵyl Apellai (neu απελλαι).[2]
Yn ôl gwahanol ffynonellau, cariadon Apollo a'i blant gyda hwy oedd:
Y Deuddeg Olympiad
|
|---|
|
Apolon · Aphrodite · Ares · Artemis · Athena · Demeter · Dionysos · Hephaestos · Hera · Hermes · Poseidon · Zews |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.