Duw rhyfel ym mytholeg Roeg oedd Ares (Hen Roeg: Ἄρης). Roedd yn un o'r Deuddeg Olympiad ac yn fab i Zews a Hera.[1] Mewn gwirionedd roedd yn dduw
| Enghraifft o: | duw Groeg, duw rhyfel, duw Olympaidd |
|---|---|
| Rhan o | Deuddeg Olympiad |
| Enw brodorol | Ἄρης |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0w9n |

Duw rhyfel ym mytholeg Roeg oedd Ares (Hen Roeg: Ἄρης). Roedd yn un o'r Deuddeg Olympiad ac yn fab i Zews a Hera.[1] Mewn gwirionedd roedd yn dduw ffyrnigrwydd a chreulondeb rhyfel, tra'r oedd ei hanner chwaer, Athena, yn dduwies strategaeth mewn rhyfel. Mae'n cyfateb i'r duw Mawrth yn y traddodiad Rhufeinig.
Ei gymdeithion mewn rhyfel oedd Deimos, "dychryn", a Phobos "ofn", yn ôl un chwedl ei feibion oeddynt, yn deillio o'i garwriaeth ag Aphrodite. Roedd Eris, duwies anghydfod, yn chwaer iddo. Yn ôl un chwedl, roedd ganddo fab, Cycnus (Κύκνος), a geisiodd adeiladu teml a phenglogau ac esgyrn teithwyr yr oedd wedi eu lladd.
Y Deuddeg Olympiad
|
|---|
|
Apolon · Aphrodite · Ares · Artemis · Athena · Demeter · Dionysos · Hephaestos · Hera · Hermes · Poseidon · Zews |
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.