Gwleidydd o Fecsico o'r Movimiento Regeneración Nacional (MORENA) yw Andrés Manuel López Obrador (ganwyd 13 Tachwedd 1953) a adwaenir yn aml gan y talfyriad AMLO, a wasanaethodd yn Arlywydd Mecsico o 2018 i 2024. Fe'i etholwyd yn arlywydd yng Ngorffennaf 2018 gyda 53% o'r bleidlais, dechreuodd yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2018. Mae'n hanu o dalaith Tabasco, a fe wasanaethodd yn swydd Pennaeth ar Lywodraeth Dinas Mecsico o 2000 i 2005.