Gwleidydd a pheiriannydd amgylcheddol o Fecsico yw Claudia Sheinbaum (ganed 24 Mehefin 1962) a wasanaetha'n Arlywydd Mecsico ers 2024.
Ganed hi yn Ninas Mecsico, prifddinas y wlad, yn ferch i'r athrawes bioleg Annie Pardo Cemo a'r peiriannydd cemegol Carlos Sheinbaum, y ddau ohonynt o dras Iddewig. Astudiodd ffiseg ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico (UNAM), ac enillodd radd meistr a doethuriaeth yno mewn peirianneg ynni. Aeth i Labordy Cenedlaethol Lawrence Berkeley yn Berkeley, Califfornia, i gyflawni ei hymchwil doethurol yn cymharu treuliant ynni ym Mecsico â gwledydd diwydiannol eraill. Dychwelodd i UNAM i ymuno â'r gyfadran beirianneg ym 1995.[1]
Bu Sheinbaum yn wleidyddol weithgar ers ei dyddiau'n fyfyrwraig. Penodwyd yn weinidog amgylcheddol Dinas Mecsico yn 2000 gan Andrés Manuel López Obrador, Pennaeth Llywodraeth y Brifddinas. Dychwelodd i UNAM yn 2006, a chyfrannodd i adroddiadau'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) ar liniaru newid hinsawdd.
Etholwyd Sheinbaum yn Faer Tlalpan, un o fwrdeistrefi Dinas Mecsico, yn 2015, ac yn Bennaeth Llywodraeth y Brifddinas yn 2018. Ym Mehefin 2023, cyhoeddodd Sheinbaum y byddai'n ymddiswyddo o lywodraeth Dinas Mecsico i ymgyrchu am yr arlywyddiaeth fel ymgeisydd y Mudiad Adfywio Cenedlaethol (Morena). Enillodd yr etholiad arlywyddol ym Mehefin 2024, a chychwynnodd yn y swydd ar 1 Hydref 2024, gan olynu ei hen fentor, Andrés Manuel López Obrador. Hyhi yw'r fenyw gyntaf a'r Iddew cyntaf i fod yn Arlywydd Mecsico.[1]
Cyfeiriadau
|
---|
Y Weriniaeth Ffederal Gyntaf (1824–35) | | |
---|
Y Weriniaeth Ganoliaethol (1835–46) | |
---|
Yr Ail Weriniaeth Ffederal (1846–63) | cydnabuwyd gan y Rhyddfrydwyr | |
---|
cydnabuwyd gan y Ceidwadwyr | |
---|
|
---|
Y Weriniaeth Adferedig (1867–76) | |
---|
Porfiriato (1876–1911) | |
---|
Cyfnod y chwyldro (1911–28) | |
---|
Maximato (1928–34) | |
---|
Cyfnod y sexenio (ers 1934) | |
---|
|