Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Order of Jamaica, Urdd y Baddon, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal
Ganed ef yn Ninas Mecsico, a derbyniodd ei radd yn y gyfraith o Brifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Mewnwladol gan yr Arlywydd Adolfo López Mateos ym 1963, a pharhaodd yn y swydd honno yng nghabinet Gustavo Díaz Ordaz o 1964 i 1969. Gwrth-gomiwnydd pybyr ydoedd, ac hysbyswr gyda chysylltiad â'r CIA ers amser hir; fe'i adwaenir gan yr enw cudd LITEMPO-8.[2] Nodweddwyd ei gyfnod yn swydd yr Ysgrifennydd Mewnwladol gan gynnydd mewn gormes gwleidyddol. Cafodd newyddiadurwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr gwrthwynebol eu sensro, eu harestio, a'u harteithio, a chyflawnwyd dienyddiadau y tu hwnt i awdurdod y gyfraith. Ar 2 Hydref 1969, llofruddiwyd cannoedd o brotestwyr yng nghyflafan Tlatelolco, gan ddifetha'r mudiad myfyrwyr ym Mecsico. Mae'n debyg yr oedd Díaz Ordaz, Echeverria, a'r Ysgrifennydd Amddiffyn Marcelino Garcia Barragán yn gyfrifol am awdurdodi'r lladdfa.
Cyhoeddwyd Echeverría yn olynydd dynodedig Díaz Ordaz, ac enillodd 86% o'r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 1970. Fe'i urddwyd yn 57ain Arlywydd Mecsico ar 1 Rhagfyr 1970. Byddai'n un o arweinwyr amlycaf Mecsico ar lwyfan y byd yn ystod y Rhyfel Oer. Er gwaethaf ei daliadau gwrth-gomiwnyddol a'i gysylltiad â'r CIA, ymgeisiodd Echeverría i ennill lle fel un o arweinwyr "y Trydydd Byd", y gwledydd nad oedd yn bleidiol i Unol Daleithiau America na'r Undeb Sofietaidd.[3] Cynigodd loches i Hortensia Bussi, gweddw Salvador Allende, a ffoaduriaid eraill o Tsile a aeth yn alltud yn sgil esgyniad Augusto Pinochet i rym. Teithiodd Echeverría i Weriniaeth Pobl Tsieina a chyfarfu â Mao Zedong a Zhou Enlai yn Beijing, gan sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng Mecsico a Tsieina.[4] Wedi iddo adael yr arlywyddiaeth ym 1976, ceisiodd ddefnyddio dylanwad Mao yn Asia ac Affrica i gael ei ethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ond methodd ennill digon o gefnogaeth.[5] Dirywiodd cysylltiadau rhwng Mecsico ac Israel, a'r garfan Iddewig yn yr Unol Daleithiau, wedi i Echeverría gefnogi Dyfarniad 3379 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn condemnio Seioniaeth.[6][7]
O ran materion cartref, arweiniodd Echeverría Fecsico yn ystod cyfnod o dwf economaidd sylweddol, ac yn sgil y cynnydd mewn pris olew o ganlyniad i argyfwng 1973 tyfodd economi'r wlad 6.1% y flwyddyn. Hyrwyddodd Echeverría ddatblygu isadeiledd drwy brosiectau megis porthladdoedd newydd yn Lázaro Cárdenas a Ciudad Madero.[8] Parhaodd dulliau gormes ac awdurdodaeth yn ystod ei arlywyddiaeth, gan gynnwys ehediadau'r meirw,[9][10]cyflafan Corpus Christi (1971) yn erbyn myfyrwyr yn protestio, a'r "Rhyfel Brwnt" yn erbyn yr adain chwith (er i Echeverría rethregu fel pe bai'n boblydd adain-chwith).[11][12][13] Ar ddiwedd ei arlywyddiaeth, cafodd Mecsico ei tharo gan argyfwng economaidd o ganlyniad i ddibrisio'r peso.[14]
Yn 2006, cafodd Echeverría ei gyhuddo o gyfrifoldeb am gyflafanau Tlatelolco a Corpus Christi a'i gyfyngu i'w dŷ,[15] ond gwrthodwyd y cyhuddiadau yn 2009.[16] Trodd Echeverría yn ganmlwydd oed ar 17 Ionawr 2022,[17] a bu farw o achosion naturiol yn ei gartref yn Cuernavaca chwe mis yn ddiweddarach.[18] Efe oedd y cyn-arlywydd hynaf yn hanes Mecsico, a'r unig un i gyrraedd 100 oed.[17]
Echeverría ydy un o'r arlywyddion mwyaf dadleuol a lleiaf poblogaidd yn hanes Mecsico. Mae ei gefnogwyr wedi clodfori ei bolisïau poblyddol, gan gynnwys ailddosbarthu tir, ehangu nawdd cymdeithasol, a chyflwyno deddfau cyntaf y wlad i ddiogelu'r amgylchedd. Mae ei wrthwynebwyr wedi beirniadu'r trais a gormes a gyflawnwyd gan y wladwriaeth dan arweiniad Echeverría, yn ogystal â chamreolaeth economaidd ei lywodraeth a'r ymateb i argyfwng ariannol 1976. Mae'r ddrwgdybiaeth o ran Echeverría yng nghyflafan Tlatelolco hefyd wedi difrodi ei enw. Mae nifer o arolygon barn[19] a dadansoddiadau[20][17] wedi rhestru Echeverría ymhlith yr arlywyddion gwaethaf yn hanes modern Mecsico.
Bywyd cynnar ac addysg (1922–45)
Ganed Luis Echeverría Álvarez ar 17 Ionawr 1922 yn Ninas Mecsico, yn fab i Rodolfo Echeverría Esparza a Catalina Álvarez Gayoi. Tâl-feistr ym Myddin Mecsico oedd ei dad. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico (UNAM), ac wedi iddo raddio ym 1945 priododd â María Esther Zuno (1924–99), ferch i un o feistri'r PRI.[21] Cawsant wyth o blant.[21]
Gyrfa wleidyddol gynnar (1945–63)
Gweithiodd yn adrannau llyngesol ac addysg y llywodraeth cyn cael ei ddyrchafu'n brif swyddog gweinyddol y PRI, ac yn y swydd honno fe drefnodd ymgyrch arlywyddol Adolfo López Mateos ym 1958. Yn ystod arlywyddoaeth López Mateos, gwasanaethodd Echeverría yn Ddirprwy Ysgrifennydd Mewnwladol, yn ail i'r Ysgrifennydd Gustavo Díaz Ordaz.
Ysgrifennydd Mewnwladol (1963–69)
Wedi i Díaz Ordaz ymddiswyddo yn Nhachwedd 1963 i ymgyrchu yn yr etholiad arlywyddol nesaf, penodwyd Echeverría i wasanaethu'n bennaeth ar yr Ysgrifenyddiaeth Fewnwladol am weddill tymor yr Arlywydd López Mateos. Enillodd Díaz Ordaz yr etholiad ym 1964, a fe gadwai Echeverría yn Ysgrifennydd Mewnwladol yn y llywodraeth newydd.
Ar 2 Hydref 1968, saethodd saethwyr cudd a gyflogwyd gan y llywodraeth ar fyfyrwyr a oedd yn protestio yn sgwâr Tlatelolco yn Ninas Mecsico, gan ladd cannoedd o bobl. Rhoddodd Echeverría y bai ar faer Dinas Mecsico.
Arlywyddiaeth (1970–76)
Ar 10 Mehefin 1971, gŵyl Corpus Christi, ymosodwyd ar brotest o fyfyrwyr gan "Los Halcones", cudd-swyddogion y llywodraeth mewn dillad cyffredin, gan ladd nifer o bobl.
Daeth tymor Echeverría yn yr arlywyddiaeth i ben yn Nhachwedd 1976, a fe'i olynwyd yn y swydd gan ei weinidog ariannol, José López Portillo.
Gyrfa wedi'r arlywyddiaeth
Gwasanaethodd Echeverría yn llysgennad Mecsico i Awstralia a Seland Newydd o 1978 i 1979, ac yn gynrychiolydd Mecsico i UNESCO.
Diwedd ei oes
Bu farw Luis Echeverría ar 8 Gorffennaf 2022 yn Cuernavaca, yn nhalaith Morelos, yn 100 oed.
↑Basurto, Jorge. "The Late Populism of Luis Echeverría". In Latin American Populism in Comparative Perspective, edited by Michael L. Conniff, 93-111. Albuquerque: University of New Mexico Press 1982.
↑Delgado de Cantú, Gloria M. (2003). Historia de México Vol. II. Pearson Educación. tt. 387–388.