Walter Davies |
---|
|
Ffugenw | Gwallter Mechain |
---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1761 Llanfechain |
---|
Bu farw | 5 Rhagfyr 1849 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | bardd |
---|
Plant | Walter Cecil Davies, Jane Davies |
---|
Bardd, beirniad eisteddfodol, golygydd, hynafiaethydd a chlerigwr Anglicanaidd o Gymru oedd Walter Davies (15 Gorffennaf 1761 – 5 Rhagfyr 1849), a oedd yn adnabyddus iawn yn ei ddydd wrth ei enw barddol Gwallter Mechain.
Bywgraffiad
Ganwyd Walter Davies ym mhlwyf Llanfechain yn yr hen Sir Drefaldwyn (gogledd Powys) - yn agos i Domen y Castell - ar 15 Gorffennaf, 1761. Ar ochr ei dad roedd yn perthyn i William Davies, a theuluoedd Nant-yr-erw-haidd yn Edeirnion a Chyffiniaid Trebrys. Gadawodd ysgol y pentre'n ddeuddeg oed a dysgodd grefft cowper, a dywedir iddo ddod yn gryn feistr wneud 'picyn'.[1]
Aeth i Brifysgol Rhydychen yn nechrau 1792 a graddiodd gyda BA yn hydref 1795. Ar ôl cyfnod byr yn is-geidwad Amgueddfa'r Ashmolean, cafodd ei urddo'n ddiacon yn Llanelwy (1795) ac yna'n offeiriad yn 1796. Yn 1799 priododd Mary, gweddw Rhys Pryce o Feifod; cawsant bedwar o blant. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt lle enillodd ei radd MA yn 1803.
Cafodd bersoniaeth Llanwyddelan yn 1803 ac yna aeth yn ficer ym mhwlyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ar 7 Gorffennaf 1807, lle arosodd am 30 mlynedd. Yn ogystal â chyflawni'r rhan fwyaf o'i waith llenyddol tra yno, gwnaeth ddau arolwg pwysig o amaethyddiaeth yng Nghymru ar ran y llywodraeth (cyheoddwyd 1810, 1814). Cynorthwyodd Samuel Lewis i baratoi ei Topographical Dictionary of Wales enwog (cyhoeddwyd 1833). Symudodd i blwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y 18 Tachwedd 1837. Bu farw ym mhersondy Llanrhaeadr ar 5 Rhagfyr, 1849 a chafodd ei gladdu ym mynwent y plwyf.
Gwaith llenyddol
Yn ei ieuenctid ymddiddorai Gwallter Mechain yng ngwaith y beirdd gwlad traddodiadol yn ei fro a chyfansoddodd sawl carol plygain yn y dull traddodiadol. Cyfansoddodd nifer o gerddi a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ar ôl ei farwolaeth. Roedd ganddo feistrolaeth dda ar ffurfiau barddonol ond braidd yn sych y mae llawer o'i gerddi mawr i ddarllenwyr heddiw, ond mae rhai o'i englynion yn ffraeth. Enillodd sawl tlws eisteddfodol, yn cynnwys y rhai a enillodd yn eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn Y Bala (Eisteddfod Y Bala 1789), Corwen (Eisteddfod Corwen 1789) a Llanelwy (Eisteddfod Llanelwy 1790), ond roedd nifer o'i gyd-feirdd yn amau twyll oherwydd gohebiaeth gyfrinachol rhwng Gwallter ac Owain Myfyr (profwyd hyn yn wir yn ddiweddarach).
Mae un o'i gerddi, 'Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816', o werth hanesyddol fel disgrifiad o effaith haf gwlyb 1816, a achoswyd gan ffrwydrad Mynydd Tambora yn Indonesia yn 1815, ar amaethyddiaeth Cymru.
Fel golygydd gwnaeth gyfraniad pwysig i fywyd llenyddol hanner cyntaf y 19g. Roedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Y Gwyliedydd (1822-38) a chyfrannodd nifer o ysgrifau Saesneg ar hanes lleol Powys a rhannau eraill o Gymru i gylchgronau Cymry Llundain. Golygodd waith rai o' feistri'r gorffennol, e.e. gwaith Huw Morus (Eos Ceiriog) (1823) a golygiad o gerddi Lewys Glyn Cothi (1837, gyda John Jones (Tegid)).
Ffynonellau
- Rhagymadrodd D. Silvan Evans i gyfrol gyntaf Gwaith Gwallter Mechain.
Llyfryddiaeth
Gwaith Gwallter Mechain
- D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, 2 gyfrol (Caerfyrddin, 1868)
Cefndir