Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Cymuned Valencia (Falensieg / Catalaneg Comunitat Valenciana neu País Valencià; Sbaeneg Comunidad Valenciana neu País Valenciano). Fe'i lleolir yn nwyrain y wlad. Mae'n ymestyn am 518 km ar hyd arfordir dwyreiniol Sbaen, Mae'n gorchuddio 23,255 km² o dir ac yn gartref i 4.5 miliwn o drigolion (2004). Mae'r gymuned yn swyddogol yn ddwyieithog, a Castilianeg (Sbaeneg) a Falensianeg (Catalaneg) yn ieithoedd swyddogol.
Andalucía · Aragón · Asturias · Cantabria · Castilla-La Mancha · Castilla y León · Catalwnia · Extremadura · Galisia · Gwlad y Basg · Madrid · Murcia · Navarra · La Rioja · Valenciana · Ynysoedd Balearig · Yr Ynysoedd Dedwydd · Dinasoedd ymreolaethol Ceuta · Melilla