Mae deddfwrfa neu system unsiambraeth yn golygu bod gwladwriaeth yn cynnwys un cynulliad deddfwriaethol yn unig (a elwir yn aml yn "siambr"), nid dwy neu fwy.
| Enghraifft o: | math o lywodraeth, monad |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | amlsiambraeth |
| Yn cynnwys | deddfwrfa unsiambr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01c_sc |
| Thesawrws y BNCF | 50762 |
Mae deddfwrfa neu system unsiambraeth yn golygu bod gwladwriaeth yn cynnwys un cynulliad deddfwriaethol yn unig (a elwir yn aml yn "siambr"), nid dwy neu fwy.
Mae llawer o wledydd sydd â systemau unsiambr [1] yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen. Mewn system dwysiambraeth ceir fel rheol dwy siambr a elwir yn generig, "y siambr isaf" a'r "siambr uchaf", ond ceir amrywiaethau lleol megis y Tŷ'r Cyffredin a Tŷ'r Arglwyddi yn y Deyrnas Unedig.


Un o'r safbwyntiau o blaid seneddau unsiambr yw y byddai siambr uchaf, a etholir gyda'r un gweithdrefnau a swyddogaethau â siambr is, yn ddyblyg ddiwerth. Yn ôl y theori hon, gall pwyllgorau seneddol gyflawni swyddogaeth "myfyrio", a ymddiriedir yn aml i'r ail siambr, tra gellir ymddiried mewn cyfansoddiad ysgrifenedig i ddiogelu'r cyfansoddiad.
Mewn llawer o achosion, mae gwladwriaethau sydd heddiw wedi mabwysiadu gweindyddiaeth unsiambr wedi bod â dau siambr yn y gorffennol. Un rheswm dros newid o'r fath yw gorgyffwrdd y siambr uchaf â'r siambr isaf a'i rhwystr o'r broses ddeddfwriaethol, er enghraifft diddymwyd yr hyn a ddigwyddodd i Landsting, ail siambr Denmarc ym 1953. Efallai mai rheswm arall yw aneffeithiolrwydd siambrau fel teimlwyd yn achos Gyngor Deddfwriaethol Seland Newydd, a ddiddymwyd ym 1951.
Mae cefnogwyr unsiambraeth yn pwysleisio'r angen i reoli gwariant seneddol a dileu'r gwaith diangen a wneir gan y ddwy siambr. Mae beirniaid siambr sengl yn pwysleisio cydbwysedd y pwerau y mae system siambr ddeuol yn eu caniatáu, gan ofyn am fwy o gonsensws ar faterion deddfwriaethol. Un o nodweddion y siambr sengl yw rhoi mwy o ddylanwad i ardaloedd trefol mwy poblog nag i ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth.
Rheswm arall a ddaeth â chefnogaeth y siambr sengl yw y bydd yn hawdd ei ddilyn gan ostyngiad yn nifer y seneddwyr a chydweithredwyr. Mae hyn yn cynnwys rhai ystyriaethau:
Mae llawer o wledydd sydd â systemau un siambr yn wladwriaethau unedol bach, homogenaidd sy'n gweld tŷ uchaf neu siambr arall yn ddiangen.
Cafwyd trafodaeth fywiog [2] yng Ngweriniaeth Iwerddon dros ac yn erbyn symud y Ddeddfwrfa, yr Oireachtas, i system unsiambr gan ddileu Seanad Éireann (yr ail siambr llai) a dim ond cadw'r Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at gynnal refferendwm ar y pwnc yn 2013.
Cafwyd dadleuon dros ddiwygio'r Seanad yn hytrach na'i ddileu.[3] Cafwyd refferendwm,a oedd yn ffurfiol ar "Thirty-second Amendment of the Constitution (Abolition of Seanad Éireann) Bill 2013"[4] ei chynnal ar 4 Hydref 2013. Aeth 39% o'r boblogaeth i bleidleio, a hynny yn erbyn dileu'r Seanad. Pleidleisiodd 591,937 yn o blaid dileu y Seanad (48.2%) a 634,437 (51.8%) yn erbyn.[5]

Y norm gyda cenhedloedd neu diriogaethau is-wladwriaeth yw unsiambraeth. Gwelir hyn yn achos Cymru lle ceir ond un siambr, sef Senedd Cymru. Gellid dadlau bod y senedd ganolog wladwriaethol yn gweithredu fel ail siambr answyddogol o ran bod mesurau a deddfau o fewn cwmpawd penodol o hawliau sydd gan deddfwrfa cenedl neu diriogaeth is-wladwriaethol.
Ymysg y deddfwriaethau is-wladwriaeth sydd â system unsiambraeth mae:
Mae'r Unol Daleithiau yn eithriad lle mae gan y taleithiau draddodiad balch o gynnal deddfwrfeydd dwysiambr yn hytrach nag unsiambriaeth. O fewn yr Unol Daleithiau, dim ond talaith Nebraska sydd â deddfwrfa unsiambr - newidiwyd i'r system yma wedi pleidlais i newid o'r drefn ddwysiambr yn 1937.[7][8] Darganfu astudiaeth yn 2018 bod ymdrechion i symud i unsiambriaeth yn nhaleithiau Ohio a Missouri wedi methu oherwydd gwrthwynebiad gan bobl cefn gwlad[8] lle roedd pryder y byddai cymunedau gwledig yn colli dylanwad mewn system lle ceir ond un siambr.[8]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.