Un o daleithiau Unol Daleithiau America yw Ohio. Daw'r enw o air yn yr iaith Iroquois sy'n golygu "dŵr mawr", fel yn achos enw Afon Ohio sy'n ffinio'r dalaith i'r de.
Dyma gyrchfan poblogaidd iawn gan Gymry'r 19g. Yr adeg honno roedd tuag 20% o boblogaeth Utah yn Gymry gyda'r rhan fwyaf yn ffermwyr ac yna cafwyd mewnfudo sylweddol gan lowyr y de i lofeydd Ohio a Pennsylvania a chwarelwyr llechi Gogledd Cymru i'r hyn a elwid yn "Slate Valley", yn Vermont a Thalaith Efrog Newydd.
Llysenw Ohio yw "Talaith Llygad y Bwch" (Saesneg: the Buckeye State) sydd yn cyfeirio at goed llygad y bwch, neu'r gastanwydden Americanaidd (Aesculus glabra), sydd yn gyffredin yn y dalaith.[1]