Gwladychwyd tiroedd eang i'r gogledd a'r gorllewin o Philadelphia gan Grynwyr o Gymru yn yr 17g, ac mae'n debyg y symbylwyd y gwladychiad gan y dyhead i gael rhyddid i addoli yn ôl eu credo. Mae'r nofel gan Marion EamesY Rhandir Mwyn wedi ei seilio ar hanes y gwladychiad hwn.
Erbyn 1700, roedd un traean (33%) o'r dalaith yn Gymry. Ceir llawer o enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig yma hyd heddiw - sy'n dyst i'r gwladychu hwn. Yn niwedd y 18g cafwyd ail don o wladychu, wedi'i arwain gan Morgan John Rhys o'r enw Cambria ac a elwir heddiw Tir Cambria (Cambria Country). Erbyn Cyfrifiad 2003-6 dim ond 1.5% oedd yn galw'u hunain 'o darddiad Cymreig'.[2]
Ar fur dwyreiniol Neuadd y Dref yn Philadelphia, er enghraifft, ceir plac sy'n cynnwys y geiriad hwn:
“
Perpetuating the Welsh heritage, and commemorating the vision and virtue of the following Welsh patriots in the founding of the City, Commonwealth, and Nation: William Penn, 1644-1718, proclaimed freedom of religion and planned New Wales later named Pennsylvania. Thomas Jefferson, 1743-1826, third President of the United States, composed the Declaration of Independence. Robert Morris, 1734-1806, foremost financier of the American Revolution and signer of the Declaration of Independence. Governor Morris, 1752-1816, wrote the final draft of the Constitution of the United States. John Marshall, 1755-1835, Chief Justice of the United States and father of American constitutional law.