Un o faesdrefi Caerdydd a chymuned yw Tredelerch (Saesneg: Rumney). Saif i'r dwyrain o Afon Rhymni, ac arferai fod yn rhan o Sir Fynwy hyd 1938. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 8,964.
Ardal o breswylfeydd yw yn bennaf, er bod rhai stadau diwydiannol a pharciau busnes. Ceir adfeilion Castell Rhymni yma, ond mae yn awr wedi ei orchuddio gan stad o dai. Sefydlwyd eglwys y plwyf, Eglwys Sant Awstin, yn 1108.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Tredelerch (pob oed) (8,827) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tredelerch) (658) |
|
7.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tredelerch) (7547) |
|
85.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tredelerch) (1,375) |
|
38.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau