Llanedern

Llanedern
Mathcymuned, maestref Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,146 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5136°N 3.1514°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000998 Edit this on Wikidata
Map

Maestref a chymuned yng Nghaerdydd ydy Llanedern (Saesneg: Llanedeyrn).[1][2] Mae'r rhan helaethaf ohoni wedi'i lleoli yng nghymuned Pen-twyn.

Cyfeiria'r enw at Edern (benthyciad o’r Lladin Eternus), un o seintiau'r Brythoniaid. Ceir enghreifftiau hanesyddol niferus o'r sillafiad Llanedarn, sydd yn dangos ôl yr ynganiad yn nhafodiaith y Wenhwyseg. Ceisiodd J. H. Matthews (archifydd Corfforaeth Caerdydd) i sicrhau’r defnydd o 'Llanedern' mor gynnar â 1905.[3]

Yn Llanedern mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern (Ysgol Uwchradd Llanedern cynt) ac ysgol gynradd Gymraeg y Berllan Deg. Mae'r enw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn rhoi i ni ynganiad cywir y faesdref.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; argraffwyd 2008; tudalen 119
  2. 2.0 2.1 Diferion o'r Pwll Coch, gan Dr Dylan Foster Evans; adalwyd 2 Mai 2015
  3. Yn y bumed gyfrol o’r Cardiff Records dywedodd J. H. Matthews: ‘The spellings “Llanedeyrn” and “Llanedarne” are alike erroneous; the first is founded on mistaken etymology, the second a barbarism’. Mae'r ffynhonnell hon wedi'i nodi yn 'Niferion o'r Pwll Coch' gan Dr Dylan Foster Evans

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!