The Revolution Will Not Be Televised

The Revolution Will Not Be Televised
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Rhan oPieces of a Man Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1971 Edit this on Wikidata
Label recordioFlying Dutchman Records Edit this on Wikidata
Genrecân brotest Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Bottle Edit this on Wikidata

Cerdd a chân gan Gil Scott-Heron yw " The Revolution Will Not Be Televised". Fe wnaeth Scott-Heron ei recordio gyntaf ar gyfer ei albwm o 1970 Small Talk at 125th and Lenox, lle bu’n llefaru'r geiriau i gyfeiliant drymiau bongo a chonga. Fersiwn wedi'i hail-recordio, gyda band llawn, oedd ochr B sengl gyntaf Scott-Heron, "Home Is Where the Hatred Is", o'i albwm Pieces of a Man (1971). Cafodd ei chynnwys hefyd ar ei albwm, The Revolution Will Not Be Be Televised (1974). Cyhoeddwyd y rhain i gyd ar label recordio Flying Dutchman Productions.

Yn wreiddiol, roedd teitl y gân yn slogan poblogaidd ymhlith mudiadau Black Power yn yr Unol Daleithiau yn y 1960au.[1] Mae ei geiriau naill ai'n sôn am neu'n cyfeirio at sawl cyfres deledu, sloganau hysbysebu ac eiconau adloniant a sylw newyddion sy'n enghreifftiau o'r hyn "na fydd y chwyldro" neu'r hyn ha fydd yn ei wneud. Mae'r gân yn ymateb i'r gerdd llafar "When the Revolution Comes" gan The Last Poets, o'u halbwm cyntaf â'r un enw, sy'n agor gyda'r llinell "When the revolution comes some of us will probably catch it on TV".[2]

Fe'i cyflwynwyd i'r Gofrestrfa Recordio Genedlaethol yn 2005.[3]

Cyfeiriadau diwylliannol yn y gerdd

  • "Plug in, turn on, and cop out", cyfeiriad at ymadrodd Timothy Leary o blaid LSD "Turn on, tune in, drop out."[4]
  • "Skag", term bratiaith ar gyfer heroin
  • "Pigs", term bratiaith am yr heddlu
  • Xerox, gwneuthurwr mwyaf adnabyddus (pan ysgrifennwyd y gerdd) o beiriannau llungopïo
  • Richard Nixon, 37ain arlywydd yr Unol Daleithiau
  • John N. Mitchell, Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau o dan Nixon
  • Y Cadfridog Creighton Abrams, un o gyfdlywyddion gweithrediadau milwrol yn ne-ddwyrain Asia yn ystod Rhyfel Fietnam
  • Mendel Rivers, cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Arfog y Tŷ yn ystod cyfnod Rhyfel Fietnam (mae enw Rivers yn ymddangos yn y recordiad gwreiddiol yn 1970, ond nid yn fersiwn 1971 a ail-recordiwyd, ble caiff ei ddisodli gan Spiro Agnew)
  • Spiro Agnew, 39ain is-lywydd yr Unol Daleithiau o dan Nixon
  • " Hog maws", weithiau'n cael ei gamglywed fel "hog moss", bwyd yr enaid wedi'i wneud o stumog mochyn
  • Schaefer Award Theatre, detholiad o ffilmiau theatrig a ddarlledwyd ar sawl gorsaf deledu yn yr Unol Daleithiau
  • Natalie Wood, actores ffilm
  • Steve McQueen, actor ffilm
  • Bullwinkle, cymeriad cartŵn
  • Julia, cyfres sitcom hanner awr ar y teledu gyda Diahann Carroll .
  • "Give your mouth sex appeal", o hysbyseb past dannedd Ultra Brite
  • "The revolution will not get rid of the nubs"ː mae nubs yn cyfeirio at sofl barf, o hysbyseb rasel Gillette o'r cyfnod
  • Willie Mays, chwaraewr pêl fas
  • "NBC will not be able to predict the winner at 8:32", cyfeiriad at rwydweithiau teledu sy'n darogan enillydd etholiadau arlywyddol yn fuan ar ôl i'r arolygon gau am 8 o'r gloch y nos.
  • Whitney Young, arweinydd hawliau sifil
  • Roy Wilkins, cyfarwyddwr gweithredol NAACP
  • Watts, cymdogaeth yn Los Angeles, yn cyfeirio at Derfysgoedd Watts ym 1965
  • "Coch, du, a gwyrdd", lliwiau'r faner Pan-Affrica
  • Green Acres, comedi teledu yn yr Unol Daleithiau
  • The Beverly Hillbillies, comedi teledu yn yr Unol Daleithiau
  • "Cyffordd Hooterville " (llygredd o Petticoat Junction, comedi teledu yn yr Unol Daleithiau, a'i leoliad ffuglenol)
  • Dick a Jane, plant gwyn, brawd a chwaer, yn ymddangos mewn llyfrau sylfaenol Americanaidd
  • Search for Tomorrow , opera sebon deledu boblogaidd yn yr Unol Daleithiau
  • "Hairy-armed women liberationists", rhai a gymerodd ran mewn ffeministiaeth ail don
  • Jackie Onassis, gweddw John F. Kennedy, a welwyd yn ystod y cyfnod mewn darllediadau teledu o gofebion i Kennedy
  • Jim Webb, cyfansoddwr o'r Unol Daleithiau
  • Francis Scott Key, a ysgrifennodd y geiriau ar gyfer " The Star-Spangled Banner "
  • Glen Campbell, canwr canu pop / gwlad yr Unol Daleithiau, a chyflwynydd The Glen Campbell Goodtime Hour ar y pryd
  • Tom Jones, canwr cerddoriaeth bop o Gymru, a chyflwynydd This Is Tom Jones ar y pryd
  • Johnny Cash, canwr canu gwlad yr Unol Daleithiau, a cyflwynydd The Johnny Cash Show ar y pryd
  • Engelbert Humperdinck, canwr cerddoriaeth bop o Brydain, a chyflwynydd The Engelbert Humperdinck Show ar y pryd
  • Rare Earth, band cerddoriaeth bop gwyn i gyd o'r Unol Daleithiau a oedd wedi cael cytundeb gyda Motown Records (dim ond yn fersiwn 1971 y cyfeirir at y band hwn)
  • "White tornado", slogan hysbysebu ar gyfer glanhawr Ajax, "Ajax cleans like a white tornado"
  • "White lightning", term bratiaith ar gyfer wisigi golau lleuad, enw cân canu gwlad o'r 1950au gan George Jones, a band roc seicedelig Americanaidd.
  • "Dove in your bedroom", delwedd hysbysebu sy'n gysylltiedig â diaroglydd gwrth-chwysu Dove
  • Cyfeiriad at "Put a tiger in your tank", slogan hysbysebu Esso (Exxon bellach) a grëwyd gan ysgrifennwr copi o Chicago, Emery Smith
  • "Giant in your toilet bowl" cyfeiriad at hysbysebion Liquid-Plumr yn dweud ei fod wedi clirio cystal roedd fel "cael cawr yn eich bowlen doiled" gydag animeiddiad o fraich fawr yn defnyddio plymiwr ar eich toiled.
  • Cyfeiriad at "hings go better with Coke", slogan hysbysebu Coca-Cola
  • Cyfeiriad at "Fights germs that may cause bad breath", o hysbysebion Listerine
  • Cyfeiriad at "Let Hertz put you in the driver's seat", slogan hysbysebu ar gyfer cwmni rhentu ceir Hertz [5][6]

Fersiynau eraill

Crëwyd addasiad Cymraeg o'r gân gan Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog, yn dilyn yr un patrwm ond gyda chyfeiriadau at y cyfryngau Cymraeg yn hytrach na hysbysebion yn America[7].

Cyfeiriadau

  1. Hamilton, Charles V.; Ture, Kwame (1967). Black Power: The Politics of Liberation in America. New York City: Random House. ISBN 0679743138.
  2. Al Nasir, Abdul Malik (June 6, 2018). "Jalal Mansur Nuriddin: farewell to the 'grandfather of rap'". Cyrchwyd June 21, 2018.
  3. "The National Recording Registry 2005". The Library of Congress. October 25, 2006. Cyrchwyd February 9, 2007.
  4. Mansnerus, Laura (June 1, 1996). "Timothy Leary, Pied Piper Of Psychedelic 60's, Dies at 75". The New York Times. Cyrchwyd October 2, 2009.
  5. "Eagle Poetry". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-15. Cyrchwyd 2020-11-02.
  6. The Revolution Will Not Be Televised by Gil Scott-Heron-Topic on YouTube
  7. "Fydd y Chwyldro ddim ar y Teledu Gyfaill". Cyrchwyd 2020-11-13.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!